Beth i'w wneud gyda
FFILM BLASTIG

Ble gallaf i ailgylchu? »
Fel arfer, nid yw ffilmiau plastig yn cael eu derbyn fel rhan o’ch cynllun ailgylchu gwastraff y cartref nac yn eich canolfan ailgylchu leol. Fodd bynnag, gall rhai mathau o ffilmiau plastig gael eu hailgylchu yn y mannau casglu bagiau plastig yn siopau mwy y rhan fwyaf o’r prif archfarchnadoedd, gan gynnwys:
- Tesco;
- Asda;
- Morrisons;
- Sainsbury's;
- The Co-op;
- Waitrose.
Mathau o ffilmiau plastig sy’n cael eu derbyn Chwiliwch am y label hon ar y pecyn: [[{"fid":"486","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"120","width":"62","alt":"On pack recycling label - Recycle with carrier bags at larger stores (not at kerbside)","class":"media-element file-media-original wysiwyg-align-center"}}]] | Mathau o ffilmiau plastig nad ydynt yn cael eu derbyn Chwiliwch am y label hon ar y pecyn: [[{"fid":"487","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"120","width":"64","alt":"On pack recycling label - plastic film, not currently recycled","class":"media-element file-media-original wysiwyg-align-center"}}]] |
Bagiau plastig | Unrhyw ffilm nad yw’n Bolyethylen (e.e. PP, PVC, eraill) |
Bagiau bara plastig | Papur swigod |
Bagiau plastig o rawnfwydydd | Clingfilm |
Papurau plastig o becynnau o ganiau a photeli plastig | Pacedi creision |
Papurau plastig o bapur toiled a phapur cegin | Codenni bwyd a diod |
Bagiau rhewi plastig | Caeadau ffilm o hambyrddau bwyd |
Papur lapio plastig cylchgronau (sy’n cael eu cludo i’r cartref) a phapurau newydd |