Beth i'w wneud gyda
DILLAD A THECSTILAU

Mae gan bob un ohonom ddillad yn ein cwpwrdd dillad neu lenni, casys gobennydd, dillad gwely, blancedi, llieiniau a thywelion yn ein cypyrddau nad oes arnom eu hangen neu eu heisiau mwyach. Weithiau, mae gennym ni eitemau sydd wedi gweld dyddiau gwell hefyd...
Felly, beth allem ei wneud â nhw?
Ble gallaf i ailgylchu? »
Pasiwch nhw ymlaen...
Elusennau a sefydliadau ailddefnyddio
- Rhowch eitemau i elusennau a sefydliadau ailddefnyddio, chwiliwch am eich siop leol ar y stryd fawr neu llenwch y bagiau sy’n dod trwy’r drws;
- Yn aml, mae banciau dillad ac esgidiau ar gael mewn archfarchnadoedd a meysydd parcio lleol – dewch o hyd i’ch un lleol gan ddefnyddio’r lleolydd cod post;
- Os ydych yn codi arian ar gyfer eich ysgol, eglwys, gweithle, clwb chwaraeon neu sefydliadau fel y Geidiau neu’r Sgowtiaid, mae cwmnïau tecstilau sy’n gallu trefnu i gasglu tecstilau i’ch helpu i godi arian ar gyfer eich achos. Mae hyn nid yn unig yn creu cyllid gwerthfawr, ond mae’n creu ysbryd tîm gwych trwy gael eich cefnogwyr i gydweithio â’i gilydd i wacáu eu cypyrddau dillad
Mae bob amser yn werth gwirio pa fathau o ddillad a thecstilau y gallwch eu rhoi, gan fod elusennau a sefydliadau ailddefnyddio gwahanol yn aml yn casglu eitemau ychydig yn wahanol i’w gilydd.
Gwerthu
Ni fu amser gwell erioed i werthu dillad diangen ac mae sawl ffordd y gallech chi wneud hynny. Mae dau draean o bobl eisoes yn prynu dillad ail-law a hen ddillad, felly mae’n adeg berffaith i geisio gwerthu eich rhai chi!
- Gwerthwch nhw ar wefannau fel eBay, Gumtree a Preloved;
- Mewn trefi mwy neu ddinasoedd, cadwch olwg am allfa/asiantaeth ‘arian am ddillad’
- Neu gallwch basio eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim mewn ar wefannau fel Freecycle a Freegle.
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau – yn aml, gallant ddefnyddio’r pethau nad oes arnom ni eu heisiau mwyach
- Gwerthwch eitemau’n lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer eitemau sydd bron â bod yn newydd ac arwerthiannau moes a phryn
- Ewch i ddigwyddiadau cyfnewid lleol neu gallwch ddechrau eich un eich hun yn www.swishing.com;
- Holwch ysgolion lleol i weld a ydynt yn casglu dillad a thecstilau i godi arian.
Ar y stryd fawr
- Mae rhai siopau fel H&M a Marks & Spencer yn casglu dillad diangen yn eu siopau. Hefyd, mae Marks & Spencer yn casglu trwy eu partner elusennol, Oxfam ac yn cynnig disgownt oddi ar eich pryniant nesaf;
- Bydd rhai siopau hen bethau yn prynu dillad ail-law, fel dillad hwyrol ac eitemau o dras.
Rhowch gynnig ar drwsio...
- Os oes gennych chi eitemau sydd wedi’u rhwygo, eu gwisgo neu nad ydynt yn ffitio’n iawn mwyach, gallech eu trwsio neu eu haltro i’w hadnewyddu;
- Ddim yn siŵr sut i wneud hynny? Gofynnwch am help gan ffrindiau a pherthnasau - mae rhywun yn siŵr o fod yn dda â nodwydd ac edau;
- Erbyn hyn, mae llawer o siopau’n cynnig gwasanaethau trwsio ac altro – edrychwch ar eich stryd fawr, chwiliwch ar-lein neu edrychwch mewn cyfeirlyfrau lleol;
- Ewch i Caru Eich Dillad am awgrymiadau ardderchog ar sut i fanteisio i’r eithaf ar eich dillad, gan gynnwys trwsiadau sy’n hawdd eu gwneud.
Ailgylchwch nhw...
Gall dillad a thecstilau – hyd yn oed hen ddillad isaf, dillad sydd wedi’u difrodi a llenni sydd wedi colli eu lliw – nad ydynt yn addas i gael eu pasio ymlaen at rywun arall gael eu hailgylchu a’u gwneud yn eitemau newydd, fel padin ar gyfer cadeiriau a seddau ceir, llieiniau glanhau a blancedi diwydiannol.
- Gwiriwch i weld a yw eich cyngor yn casglu dillad a thecstilau i’w hailgylchu;
- Neu ein 'Alla' I ei ailgylchu?' dudalen i ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf;
- Mae rhai elusennau’n casglu dillad a thecstilau i’w hailgylchu. Gwiriwch â’ch siop leol neu ar y bagiau sy’n dod trwy’r drws;
- Yn aml, mae banciau dillad a thecstilau ar gael mewn meysydd parcio archfarchnadoedd a meysydd parcio lleol – gwiriwch i weld a ydynt yn derbyn eitemau i’w hailgylchu.
Gwefannau cysylltiedig:
» Am fwy o syniadau am beth i’w wneud â’ch dillad, ewch i Caru Eich Dillad.