Beth i'w wneud gyda
DIESEL A PHETROL

Caiff y rhain eu hystyried yn wastraff fflamadwy, peryglus! Cysylltwch â’ch cyngor lleol i holi a ydynt yn derbyn petrol neu diesel yn eich canolfan ailgylchu leol. Os nad ydynt yn eu derbyn, efallai y byddant yn gwybod am opsiynau eraill lleol.
Gallwch roi eich cod post ar wefan GOV.UK i ddod o hyd i’ch gwasanaeth gwaredu gwastraff peryglus agosaf.