Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Sut y caiff ei ailgylchu?
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Beth i'w wneud gyda

CYRC

Cork

Nid yw cyrc yn cael eu casglu fel rhan o’ch cynllun ailgylchu o garreg y drws.  Fodd bynnag, gallwch eu rhoi yn eich bin compost os oes gennych chi un, eu hailgylchu mewn rhai siopau neu eu hailddefnyddio mewn llawer o ffyrdd gwahanol hefyd.

Gwneud torch Nadolig

Dechreuwch â thorch plaen 18” a gwn glud poeth.  Gludwch y cyrc o gwmpas y torch nes i chi lenwi’r holl leoedd gwag.  Gwnewch gwlwm a’i ddiogelu â gwifren gwerthwr blodau.

Llosgi cyrc ar dân agored

Y tu mewn: Os oes gennych chi dân/llosgydd pren go iawn y tu mewn, gallwch gadw eich cyrc eu defnyddio ar gyfer tanwydd.

Y tu allan: Maent hefyd yn wych i’w defnyddio yn yr ardd ar eich chiminea/pydew tân/barbeciw.

A ydych chi’n gwahodd pobl draw am swper?

Gallwch greu gosodiad bwrdd cyflym ag ychydig o gymeriad!  Torrwch agen mewn corcyn gwin a rhoi cerdyn lle ynddo.

Mae atgofion yn amhrisiadwy

Cymerwch y corcyn o’r botel, gwnewch ddymuniad bod yr hapusrwydd rydych yn ei deimlo yr eiliad honno yn cael ei ailadrodd, a rhowch ddarn arian mewn agen ar dop y corcyn!  Yn ôl traddodiad, dylech gysgu â’r corcyn o dan eich gobennydd, yna rhwbio’r darn arian unrhyw ddiwrnod wedi hynny i gael lwc dda!

Neu...gallech ysgrifennu’r dyddiad a’r achlysur ar ochr y corcyn a’i gadw mewn ffiol atgofion.

Defnyddio cyrc ar gyfer eich planhigion

Torrwch gyrc a’u malu i wneud tomwellt mân – mae’n helpu planhigion i ddal dŵr.  Yn benodol, mae tyfwyr tegeirianau wedi defnyddio cyrc wedi’u sleisio ers blynyddoedd maith i helpu’r planhigyn i ddal lleithder.  Mae hwn yn awgrym da ar gyfer y rhai ohonynt sy’n anghofio rhoi dŵr i’n planhigion! 

Related pages

Alla' I ei ailgylchu

  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Cymru yn Ailgylchu

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU