Beth i'w wneud gyda
CYFRIFIADURON

Ble gallaf i ailgylchu? »
Efallai y bydd eich canolfan ailgylchu leol yn derbyn cyfrifiaduron, sgriniau a gliniaduron i’w hailgylchu, neu gallwch roi eich cyfrifiadur, hyd yn oed os nad yw’n gweithio’n berffaith!
Pasiwch nhw ymlaen...
Sefydliadau cymunedol a sefydliadau ailddefnyddio
Mae rhoi eich offer cyfrifiadurol diangen i elusen yn ffordd wych i helpu pobl eraill. I rai elusennau, mae’n bwysig bod yr offer yn gweithio’n iawn; fodd bynnag, mae gan grwpiau eraill dechnegwyr a all eu hatgyweirio.
- Chwiliwch am unrhyw lawlyfrau cyfarwyddiadau, ceblau neu ategolion y gallech chi eu rhoi gydag ef;
- Os ydych yn darparu meddalwedd â’ch cyfrifiadur, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys trwydded y feddalwedd ac unrhyw gryno ddisgiau ar gyfer ei gosod.
Ar-lein
- Gallwch basio eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau felFreecycle a Freegle;
- Neu gallwch eu gwerthu ar wefannau fel eBay a Gumtree.
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau – yn aml, gallant ddefnyddio’r pethau nad oes arnom eu heisiau mwyach;
- Gwerthwch eitemau’n lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer eitemau sydd bron â bod yn newydd, ac arwerthiannau moes a phryn;
- Hysbysebwch ar-lein, yn eich papur newydd lleol neu ar hysbysfyrddau lleol.
Sut dylwn i ailgylchu cyfrifiaduron?
Cysylltwch â’ch cyngor i ddarganfod pa offer y gallant ei dderbyn ac ym mha gyflwr.
Gwnewch yn siwr eich bod yn dileu pob ffeil a rhaglen ar eich cyfrifiadur yn barhaol: