Beth i'w wneud gyda
COED A PHREN

Ble gallaf i ailgylchu? »
Nid yw coed a phren yn cael eu derbyn yn eich bin ailgylchu gwastraff y cartref, ond gallwch fynd â nhw i’r rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Rydym yn argymell gwirio â’ch cyngor lleol yn y lle cyntaf.
Fel arall, gallech chi eu hysbysebu ar Gumtree, oherwydd gall llawer o bobl eu hailddefnyddio neu eu defnyddio fel coed tân ar gyfer ffyrnau llosgi pren.
A ellir ei ailddefnyddio?
- Gellir, cadwch dorbrennau gan y gallant fod yn ddefnyddiol yn hwyrach.
Alla’ i wneud unrhyw beth arall ag ef?
- Defnyddiwch ddarnau hir o bren sgrap fel polion yn yr ardd neu crewch eich dellt eich hun;
- Defnyddiwch dorbrennau llai i wneud blociau sgwrio;
- Ceisiwch wneud lletemau drws gyda’ch torbrennau, yna eu paentio neu eu farneisio;
- Os ydych yn greadigol, beth am wneud tŷ neu ymborthwr adar gyda’ch pren sgrap?
Prif Awgrymiadau
- Os yw’ch pren wedi cael ei drin â phaent neu farnais, gofynnwch i weithiwr y ganolfan ailgylchu am gyngor ynglŷn â ble i’w roi;
- Gellir ychwanegu canghennau coed at y sgip gwastraff gardd gwyrdd yneich canolfan ailgylchu leol.