Beth i'w wneud gyda
CETRIS PEIRIANNAU ARGRAFFU

Ble gallaf i ailgylchu? »
Yn gynyddol, mae’r rhain yn cael eu casglu mewn canolfannau ailgylchu lleol ond, yn gyffredinol, nid ydynt yn cael eu casglu o ochr y ffordd. Fodd bynnag, bydd sefydliadau eraill yn eu hailgylchu i chi.
Sut dylwn i ailddefnyddio cetris peiriant argraffu?
Eu hail-lenwi!
- Beth am fynd â’ch cetris gwag i gael eu hail-lenwi? Gallwch arbed hyd at 60% oddi ar bris cetrisen newydd!
Ail-lenwch nhw eich hun!
- Mae ail-lenwi cetris chwistrell yn syml a gallwch ei wneud eich hun. Mae nifer o gwmnïau’n cyflenwi’r inc a’r offer ail-lenwi;
- Wrth i chi brynu peiriant argraffu, dewiswch un sy’n defnyddio cetris y gellir eu hail-lenwi’n hawdd neu sy’n derbyn cetris generig neu wedi’u hail-lenwi.
Beth arall gallaf ei wneud â nhw?
- Gallwch eu rhoddi! Mae llawer o elusennau’n casglu cetris peiriannau argraffu gwag i godi arian trwy eu hail-lenwi a’u hailwerthu;
- Chwiliwch ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i elusennau yn eich ardal chi sy’n casglu cetris peiriannau argraffu.