Beth i'w wneud gyda
CARDBORD

Ble gallaf i ailgylchu? »
Y prif fathau o gardbord rydym yn dod o hyd iddynt gartref yw cerdyn rhychiog (h.y. bocsys pacio) a’r mathau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer pecynnau bwyd a diod - fel bocsys grawnfwyd, cartonau wyau, cloriau cardbord neu focsys o brydau bwyd parod ac ati. Mae modd ailgylchu’r ddau fath hyn, ond weithiau bydd cynghorau’n eu casglu ar wahân.
Gwiriwch â’ch cyngor i gael mwy o wybodaeth am eich cynllun ailgylchu lleol.
Fel arall, gallwch fynd ag ef i’r ganolfan ailgylchu leol.
Oherwydd bod cymaint ohonom yn prynu eitemau ar-lein, yn aml mae gennym ni lawer o focsys cardbord i gael gwared arnynt...
Ailddefnyddiwch nhw...
- Mae bocsys cardbord yn ddefnyddiol ar gyfer storio pethau - cofiwch ysgrifennu’r cynnwys ar y bocs er mwyn i chi allu gweld beth sydd ynddo’n rhwydd!
- Gellir defnyddio cardbwrdd i insiwleiddio planhigion eiddil dros fisoedd y gaeaf – torrwch ddarnau o gardbwrdd i ffitio o gwmpas llwyni a phlanhigion, a rhowch wellt neu bridd drosto. Mantais gwneud hyn yw y bydd y cardbwrdd yn pydru yn y pridd ac yn gwella ei strwythur;
- Mae bocsys cardbord mawr yn gwneud bocsys teganau gwych – rhowch gynnig ar eu haddurno â phapur wal sydd dros ben neu byddwch yn greadigol â darnau o ffabrig i’w bywiogi rhywfaint!
- Mae plant wrth eu bodd yn chwarae â bocsys cardbord, yn enwedig o focsys mawr iawn. Ychwanegwch ychydig o ddychymyg, a gallant fod yn unrhyw beth o dŷ bach twt i injan dân!
- Defnyddiwch focs cardbord i gasglu eich deunyddiau i’w hailgylchu ynddo – yna, ni fydd raid i chi ei wahanu’n ddiweddarach!
Pasiwch nhw ymlaen...
- Holwch ffrindiau a pherthnasau i weld a oes eu hangen arnynt – mae bocsys cardbord mawr yn gyfleus os ydych yn symud tŷ ac mae bocsys llai yn wych ar gyfer storio pethau;
- Efallai y bydd ysgolion neu gylchoedd chwarae lleol yn eu cael yn ddefnyddiol ar gyfer prosiectau crefft.
Ailgylchwch nhw...
- Mae cardbord yn cael ei ailgylchu’n eang – gwiriwch â’ch cyngor i weld a allwch ei roi gyda’ch deunyddiau eraill i’w hailgylchu;
- Mae cardbord yn cael ei dderbyn yn y rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
Beth arall allaf ei wneud â chardbord?
- Gall bocsys wyau a chardbord arall gael eu compostio gartref.
DYSGWCH BETH ALLWCH EI AILGYLCHU GARTREF