Beth i'w wneud gyda
CAMBRENNI

Gall cambrenni gael eu gwneud o ddeunyddiau amrywiol – pren, metel neu blastig. Os nad oes eu hangen arnoch, yn aml gallwch eu rhoi i siopau elusen neu eu rhoi i sychlanhawyr a manwerthwyr a fydd yn eu hailddefnyddio.
Mae pobl bob amser yn chwilio am gambrenni. Os oes gennych chi ddigon dros ben, hysbysebwch nhw ar Gumtree ac mae’n fwy na thebyg y bydd rhywun yn eu casglu gennych. Os oes arnoch chi eisiau cael gwared arnynt yn gyflym, rhowch nhw am ddim!
Ble gallaf i ailgylchu?»
Os ydynt wedi torri, rhowch gynnig ar gysylltu â’ch cyngor lleol oherwydd bod gan ganolfannau ailgylchu gynhwysyddion ailgylchu ar gyfer pren, metel a phlastig lle y gellid eu hailgylchu. Gwiriwch â’ch cyngor lleol yn y lle cyntaf bob tro.