Beth i'w wneud gyda
BEICIAU

Ble gallaf i ailgylchu? »
Gall beiciau sydd mewn cyflwr gwael hyd yn oed gael eu trwsio, eu hadnewyddu a’u hailddefnyddio. Fodd bynnag, os na ellir trwsio eich beic, gall prif ddarnau eich hen feic gael eu hailgylchu yn eich canolfan ailgylchu agosaf.
Os oes gennych chi feic i gael gwared arno, ystyriwch yr opsiynau canlynol:
Gwerthwch ef i wneud ychydig o arian...
- Rhowch gynnig ar hysbysebu mewn papur newydd lleol neu ar hysbysfwrdd
- Gwerthwch ar-lein ar wefannau fel eBay a Gumtree;
- Gwerthwch ef mewn arwerthiant cist car neu arwerthiant moes a phryn.
Pasiwch ef ymlaen...
Holwch ffrindiau a pherthnasau i weld a allant ddefnyddio eich hen feic
Ewch ar-lein i’w roi’n rhad ac am ddim ar wefannau fel Freecycle a Freegle;
Rhowch gynnig ar chwilio ar y rhyngrwyd neu cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddod o hyd i’ch sefydliad ailddefnyddio agosaf. Mae’r sefydliadau canlynol yn cymryd hen feiciau ac yn eu hadnewyddu ar gyfer elusennau neu brosiectau cymunedol:
- Ffoniwch y llinell ffôn ailddefnyddio cenedlaethol i roi eich beic ar 0800 0665 820
- The Bike Station;
- Cyfeirlyfr ailgylchu beiciau CTC.
Ailgylchwch ef...
Os na ellir trwsio eich beic, gallwch ailgylchu’r darnau metel. Mae gan lawer oganolfannau ailgylchu lleol gyfleuster ailgylchu metelau cymysg.
- Bydd angen i chi ddarparu eich cludiant eich hun. Cysylltwch â’r ganolfan ailgylchu i gael yr oriau agor, sy’n gallu amrywio ar gyfer ceir a faniau;
- Os ydych chi’n mynd â’ch beic mewn fan, gwiriwch â’r ganolfan ailgylchu a oes angen caniatâd neu ddull adnabod arnoch i wneud hynny;
- Cyn i chi fynd â’ch beic i’r ganolfan ailgylchu, tynnwch unrhyw ddarnau rwber neu blastig fel teiars, tiwbiau mewnol, seddau, breciau, goleuadau plastig neu gloeon a chlychau.