Beth i'w wneud gyda
BAGIAU TE

Mae sawl ffordd o gael gwared â’ch hen fagiau te. Yn gyffredinol, er mwyn helpu i osgoi’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a geir o fagiau te sy’n pydru mewn safleoedd tirlenwi, os oes gennych gynllun casglu gwastraff bwyd neu wastraff o’r ardd yn eich ardal, yna’r peth gorau i’w wneud yw rhoi eich bagiau te yn y bin hwnnw. Gallwch roi bagiau te yn eich bin compostio gartref os oes gennych un.
Alla i gompostio hen fagiau te gartref?
- Mae bagiau te wedi’u gwneud o ffibr planhigion naturiol yn bennaf, ond i’w rhwystro rhag disgyn yn ddarnau mewn dŵr berw, mae yna ychydig bach o ychwanegion plastig ynddyn nhw.
Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau te, fel PG Tips, naill ai’n defnyddio neu ar fin newid i ddefnyddio plastig bioddiraddadwy. Mae’r math hwn o blastig fel arfer angen proses ddiwydiannol er mwyn diraddio’n gyfan gwbl. Felly, gallwch roi bagiau te yn eich compostio cartref, ond efallai y byddwch yn darganfod ‘sgerbwd’ tenau o’r bagiau te yn eich compost. Gallwch eu hidlo allan a’u taflu, neu gallech agor y bagiau te a rhoi’r dail te yn eich bin compost.
Ewch draw i’n hadran compostio gartref am fwy o wybodaeth ddefnyddiol.
Beth sy’n digwydd i’r hen fagiau te rwy’n eu rhoi yn y bin/cadi gwastraff bwyd?
- Mae’r hen fagiau te, ynghyd â’r gwastraff bwyd arall, naill ai yn cael eu compostio neu’n cael eu hanfon ar gyfer treulio anaerobig.
Dysgwch sut caiff gwastraff bwyd ei ailgylchu