Beth i'w wneud gyda
BAGIAU PLASTIG

Mae rhai cynghorau’n dechrau casglu bagiau plastig fel rhan o gynlluniau ailgylchu gwastraff y cartref; fodd bynnag, nid yw hyn yn eang ar hyn o bryd, felly gwiriwch â’ch cyngor lleol yn gyntaf.
Mae llawer o archfarchnadoedd mwy yn derbyn eich bagiau plastig yn ogystal â ffilmiau plastig eraill.
Fel arfer, mae’r mannau casglu ar gyfer bagiau plastig a ddefnyddiwyd ger y brif fynedfa.
Gall pob un ohonom wneud dewisiadau cadarnhaol i helpu’r amgylchedd yn y ffordd rydym yn siopa. Mae pawb sy’n lleihau nifer y bagiau y maent yn eu defnyddio yn cyfrannu at arbed adnoddau a lleihau gwastraff.
Yng Nghymru, ers cyflwyno'r ffi bag plastig 5c, rydym wedi lleihau ein defnyddid bag siopa gan tua 90%.
Meddyliwch am fagiau!
- Chwiliwch am fagiau amldro addas a gwnewch yn siwr eu bod yn ‘addas i’r diben’ – yn gryf, yn wydn ac wedi’u gwneud o ddeunydd eildro
- Cadwch fag bach plygadwy gyda chi rhag ofn i chi brynu unrhyw beth yn annisgwyl neu’n fyrbwyll
- Lleihewch faint o fagiau plastig rydych yn eu defnyddio trwy eu hailddefnyddio cymaint â phosibl
- Ailddefnyddiwch fagiau a rhowch fagiau plastig sydd wedi treulio mewn mannau ailgylchu mewn archfarchnadoedd, oherwydd eu bod yn cael eu casglu’n benodol ar gyfer ailgylchu ffilmiau plastig arbenigol ar wahân i lifoedd gwastraff eraill
- Os ydych yn siopa ar-lein ac yn cael archfarchnad i gludo eich nwyddau, rhowch y bagiau’n ôl i’r gyrrwr ar ôl i chi ddadbacio neu pan fyddwch yn prynu ar-lein y tro nesaf.
Ble gallaf eu hailgylchu?
Mae rhai cynghorau’n dechrau casglu bagiau plastig fel rhan o gynlluniau ailgylchu gwastraff y cartref; fodd bynnag, nid yw’r gwasanaeth hwn yn un eang ar hyn o bryd. Cyn i chi eu rhoi yn eich bin ailgylchu, holwch eich cyngor lleol ynghylch a ydynt yn cael eu derbyn yn eich ardal chi ai peidio.
Erbyn hyn, mae mwyafrif yr archfarchnadoedd mwy yn y DU yn cynnig cyfleusterau ailgylchu ar gyfer bagiau plastig a rhai ffilmiau plastig eraill sy’n cynnwys label â’r neges ‘ailgylchwch â bagiau plastig mewn siopau mwy – nid ar ochr y ffordd’. Mae’r archfarchnadoedd canlynol yn cynnig mannau casglu mewn siopau mwy:
- Asda;
- Morrisons;
- Sainsbury’s;
- Tesco;
- The Co-operative;
- Waitrose.
Beth am wirio eich archfarchnad leol y tro nesaf y byddwch yn ymweld â hi? Fel arfer, mae’r mannau casglu ger y brif fynedfa.
Beth mae bagiau plastig wedi’u gwneud ohono?
Er bod bagiau plastig yn defnyddio 70% yn llai o blastig nag oeddent 20 mlynedd yn ôl, maent yn cael eu gwneud o bolyethylen (PE) o hyd, sy’n deillio o olew anadnewyddadwy ac sydd angen ynni i’w gynhyrchu.
Gellir ailgylchu bagiau plastig ac maent yn cael eu hailgylchu’n gynyddol, ond mae’r mwyafrif ohonynt yn mynd i safleoedd tirlenwi o hyd, lle y gallant gymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu.