Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Pwerwch eich arferion boreol gyda PHWER BANANAS!

Publication date:
19 Sep 2018

Mae’r banana yn ffrwyth arbennig iawn. Maen nhw’n ffynhonnell ynni ardderchog, yn helpu i roi hwb i’r ymennydd, maen nhw’n flasus iawn gyda hufen iâ, ac maen nhw hyd yn oed yn dod wedi’u pecynnu yn eu siwt archarwr eu hunain. 

Erbyn hyn, rydym yn darganfod mwy fyth o bethau defnyddiol am ein cyfaill melyn melys. Nid i bobl yn unig y maen nhw’n rhoi ynni; pan gaiff crwyn bananas (a gwastraff bwyd arall) eu hailgylchu, gellir eu troi’n drydan i bweru eich arferion boreol, a phob math o bethau anhygoel. Dim rhyfedd bod mwy a mwy o bobl yn Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu eu gwastraff bwyd i greu pwer.

1. Amser cawod!

[[{"fid":"4260","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"235","width":"426","style":"color: #494949; font-family: 'PT Sans', sans-serif;","class":"media-element file-media-original"}}]]

Amser codi a mwynhau cawod adfywiol wedi’i phweru gan grwyn bananas y mis diwethaf. Gallai 50 o grwyn banana wedi’u hailgylchu bweru eich sesiwn sbriwsio yn y bore a’ch paratoi ar gyfer y diwrnod o’ch blaen. 

2. Ailgylchu bananas i bweru’r ymbincio

[[{"fid":"4255","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"378","width":"500","style":"color: #494949; font-family: 'PT Sans', sans-serif;","class":"media-element file-media-original"}}]]

Gall ailgylchu 30 o grwyn bananas greu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 10 munud, mwy na digon o amser i’ch paratoi ar gyfer eich diwrnod.

3. Berwi’r tegell gyda chydwybod lân

Angen dos o gaffein i’ch cadw i fynd y bore ’ma? Mae ailgylchu cyn lleied ag wyth croen banana yn creu digon o ynni i ferwi’r tegell ar gyfer eich disgled foreol.

4. Eich ysgol leol

[[{"fid":"5166","view_mode":"custom_main","type":"media","attributes":{"height":"362","width":"644","alt":"Primary School","title":"Primary School","class":"media-element file-custom-main"}}]]

Wrth gyfuno ein holl ymdrechion ailgylchu bwyd, mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw. Pe bai pawb yn Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu 1 croen banana, byddai’n creu digon o ynni i bweru ysgol lleol am 36 awr.

Beth arall allaf i ei ailgylchu? 

Mae crwyn bananas yn eitemau gwastraff bwyd na ellir eu bwyta, ond gellir eu hailgylchu. Mae eitemau bwyd ‘anochel’ eraill y gellir eu hailgylchu a’u troi’n ynni adnewyddadwy i Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys:

  • Esgyrn cyw iâr neu gig
  • Bagiau te a gwaddodion coffi
  • Holl grafion ffrwythau a llysiau
  • Plisg wyau
  • Crafion plât a bwyd sydd tu hwnt i’r dyddiad defnyddio

I ddarganfod sut caiff gwastraff bwyd ei droi’n drydan, ac i ddarganfod sut y gallwch fynd ati i ailgylchu eich gwastraff bwyd, ewch draw i ein tudalen Bwyd Ailgylchu.

Editor's notes

Dy wasanaeth lleol

Mae pob un o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol hwylus. Y cwbl fyddi di ei angen yw cadi cegin, bin ailgylchu bwyd a rholyn o fagiau leinio i gychwyn arni.

Dewis dy ardal cyngor o’r map er mwyn archebu dy finiau a darganfod mwy am dy wasanaeth lleol.

Archebu cadi a bin i’r tu allan


Cliciwch am wybodaeth
wales
  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Ailgylchu Dros Gymru

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU