Ymgyrch ‘Mwnci o’r Gofod’ ar gyfer Ysgolion Abertawe
Mae Busta’r pyped yn galw ar ddisgyblion cynradd Abertawe i ymuno ag ymgyrch ailgylchu gwastraff bwyd am gyfle i gael arddangos eu poster ledled y ddinas

Mae cyfle i blant ysgol Abertawe ddylunio poster i ymddangos ar gerbydau ailgylchu Cyngor Abertawe – diolch i fwnci gofod rhyngalaethol o’r enw Busta. Mae’r masgot ailgylchu ar ymgyrch pwysig i ymchwilio sut mae bwyd wedi’i ailgylchu yn Abertawe yn cael ei drawsnewid yn drydan, ac mae’n gwahodd disgyblion ysgol gynradd i ymuno ag ef.
Cynhelir Ymgyrch Ailgylchu Bwyd Abertawe gan Ailgylchu dros Gymru, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Wastebuster ac Eco-Sgolion, a’i nod yw cael holl ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 Abertawe i ddysgu sut caiff gwastraff bwyd a ailgylchir yn y ddinas ei drin mewn cyfleuster treulio anaerobig ym Mhen-y-bont ar Ogwr i greu trydan i bweru cartrefi, ysgolion ac atyniadau ymwelwyr Abertawe. Lansiodd Busta ei ymgyrch trwy ymweld â nifer o’r atyniadau hyn i dynnu lluniau ohono ar ei wyliau.
Gwahoddir athrawon i fynd ar-lein i lawrlwytho pecyn sy’n cynnwys gweithgareddau a syniadau ar gyfer gwersi sy’n cysylltu â’r cwricwlwm, ac mae’n cynnwys gweithgaredd gwaith cartref, yn ogystal â’r gystadleuaeth i’r plant. Gall y teulu oll gymryd rhan trwy gofnodi eu ‘gwastraff bwyd anochel’ (gwastraff bwyd na ellir ei fwyta, ond gellir ei ailgylchu, fel crwyn bananas a bagiau te) mewn dyddiadur bwyd a darganfod faint o ynni y gellir ei greu, gan ddefnyddio’r ‘Electrogeneradur’ – cyfrifiannell ynni ar-lein – ar wefan yr Ymgyrch.
Mae trigolion Abertawe eisoes yn ailgylchwyr brwd – mae 72% ohonynt yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, a llynedd fe wnaethon nhw ailgylchu digon o fwyd i bweru ysgol gyfan am chwe blynedd. Canfu arolwg diweddar yn yr ardal bod y rhan fwyaf o drigolion yn ailgylchu eu gwastraff bwyd i wneud eu rhan dros y gymuned a’r amgylchedd.
Mae Cymru ar y blaen o ran ailgylchu gyda chyfradd ailgylchu o 64%, sef yr uchaf yn y Deyrnas Unedig a’r 3ydd yn y byd.
Mae Angela Spiteri, Rheolwr Ymgyrch Ailgylchu dros Gymru, yn ymuno â Busta ar ei ymgyrch. Meddai Angela:
“Hoffwn gael cymaint o blant Abertawe â phosib i ymuno â Chapten Busta ar yr ymgyrch pwysig yma a chael cyfle i ennill gwobr ardderchog. Gobeithio hefyd y bydd rhieni, gwarcheidwaid ac athrawon Abertawe yn dilyn cyngor Busta ac yn defnyddio eu cadi bwyd i daflu gwastraff bwyd anochel i helpu i greu mwy o ynni adnewyddadwy i Abertawe.”
Meddai Mark Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Gwasanaethau’r Amgylchedd: “Mantais yr ymgyrch diweddaraf yma yw y gallwn gael plant, o oed ifanc, i ddeall buddion ailgylchu bwyd a sicrhau, wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn, eu bod yn gweld hyn fel peth cyffredin i’w wneud o ran cael gwared â gwastraff o’r cartref.
“Mae nifer o drigolion hefyd yn gwneud yn wych ac yn ailgylchu eu gwastraff bwyd. Gobeithio y bydd yr ymgyrch yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o drigolion Abertawe yn parhau â’r ymdrechion i ailgylchu cymaint ag y gallwn a chwrdd â thargedau ailgylchu’r llywodraeth.”
I gymryd rhan neu i weld lluniau o Busta ar ei wyliau, ewch i https://foodrecyclingmission.org.uk/swansea/cy
Editor's notes
Dy wasanaeth lleol
Mae pob un o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol hwylus. Y cwbl fyddi di ei angen yw cadi cegin, bin ailgylchu bwyd a rholyn o fagiau leinio i gychwyn arni.
Dewis dy ardal cyngor o’r map er mwyn archebu dy finiau a darganfod mwy am dy wasanaeth lleol.