LLU O FAGIAU TE A THEBOTIAU YN MYND I’R BRIFYSGOL I ANNOG MYFYRWYR I AILGYLCHU EU BAGIAU TE
Amcangyfrifir bod 6.3 miliwn o fagiau te yn cael eu taflu i’r bin, ac o bosibl yn mynd i dirlenwi, gan fyfyrwyr yng Nghymru
Mae Ailgylchu dros Gymru yn galw ar fyfyrwyr i gynyddu cyfraddau ailgylchu drwy ailgylchu eu bagiau te
Cafodd myfyrwyr yng Nghaerdydd eu tretio i ddisgled o de heddiw, mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth am y 6.3 miliwn o fagiau te sy’n cael eu taflu i’r bin, ac o bosibl yn mynd i dirlenwi, gan fyfyrwyr bob blwyddyn yn ôl amcangyfrifon.
Fel rhan o ymgyrch Ailgylchu dros Gymru, bu myfyrwyr o flaen Prifysgol Caerdydd ac o gwmpas Parc Cathays mewn gwisgoedd tebot, bagiau te, llaeth a llwyau – gan ddatgelu’r nifer aruthrol o fagiau te sy’n osgoi’r bin ailgylchu gwastraff bwyd. Tra’r oedd y criw yn eu gwisgoedd yn gorymdeithio o amgylch tir y brifysgol, bu criw Ailgylchu dros Gymru yn siarad gyda myfyrwyr sy’n yfed te am sut i ailgylchu’r amrywiaeth o fathau o de rydym yn eu hyfed y dyddiau hyn.
Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, yn ôl ymchwil annibynnol newydd, er gwaethaf y ffaith nad yw 24% o bobl 18–24 mlwydd oed a 32% o bobl 25–34 mlwydd oed yn ailgylchu eu gwastraff bwyd. Ar y llaw arall, mae pobl mewn grwpiau oedran hŷn yn arwain y gad wrth ailgylchu bwyd gydag 87% o bobl 65 oed a hŷn yn datgan eu bod yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
Ar ben hynny, yn ôl astudiaeth arall o dros 5,000 o drigolion Rhondda Cynon Taf a gynhaliwyd gan Ailgylchu dros Gymru, bydd angen i fyfyrwyr wynebu’r her er mwyn cwrdd â lefelau ailgylchu eu cyfoedion nad ydynt mewn addysg. Er bod gwasanaethau ailgylchu bwyd ar gael, dim ond 28% o fyfyrwyr sy’n ailgylchu eu bagiau te o’i gymharu â 67% o’r rhai nad ydynt mewn addysg.
Mae’r ymgyrch ailgylchu ar gyfer Cymru wedi datgelu pe bai’r holl fagiau te a gaiff eu binio gan fyfyrwyr Cymru – 95 tunnell ohonynt – yn cael eu hailgylchu, gallai gynhyrchu digon o drydan i bweru tŷ myfyrwyr nodweddiadol am dros saith mlynedd. Mae hynny’n ddigon i bweru tŷ myfyriwr meddygol trwy gydol eu cwrs gradd. Gallai’r bagiau te wedi’u hailgylchu hefyd chwarae rhan fawr yn adloniant myfyrwyr yn ystod eu hamser hamdden – mewn gwirionedd, pe bai’r holl fagiau te sydd ar eu ffordd i’r bin, ac o bosibl i dirlenwi, yn cael eu hailgylchu, gallai hyn bweru set DJ yn ddi-baid am dros 15 mis, neu fand yn chwarae mewn lleoliad bach am 16 mis a hanner.
Yn ogystal â hynny, mae tua 153 miliwn o fagiau te o bob cwr o Gymru yn mynd i dirlenwi, sy’n cyfrannu at greu methan, nwy tŷ gwydr niweidiol. Yn y rhan fwyaf o Gymru, pan gaiff bagiau te ac unrhyw wastraff bwyd arall ei ailgylchu, caiff ei anfon i gyfleuster treulio anaerobig. Mae treuliad anaerobig yn golygu torri bwyd i lawr yn naturiol i nwyon methan a charbon deuocsid, ond yn hytrach na dianc i’r atmosffer, caiff y nwyon hyn eu defnyddio i greu trydan. Gellir defnyddio’r trydan hwn i gynhesu a phweru tai yn y gymuned leol. Gall hefyd gynhyrchu gwrtaith y gellir ei ddefnyddio mewn amaeth.

Meddai Angela Spiteri, Rheolwr Ymgyrch gydag Ailgylchu dros Gymru: "Mae pawb yn mwynhau disgled, yn enwedig myfyrwyr sy’n cael seibiant o’u darlithoedd. Mae dros 128,000 o fyfyrwyr yn astudio yng Nghymru a byddai’n wych pe bai pob un yn ailgylchu eu bagiau te ar ôl mwynhau eu disgled. Dyna’r pam rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr ledled Cymru a Handlebar Barista heddiw, i helpu i annog myfyrwyr i roi’r eitem hon o wastraff anochel yn eu cadi bwyd.
“Fel cenedl, rydym eisoes yn gwneud yn wych gydag ailgylchu gwastraff bwyd, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Mae pawb yn creu rhywfaint o wastraff bwyd, dim ots pa mor gydwybodol ydyn ni. O’r holl wastraff bwyd anochel rydyn ni’n ei greu, mae ailgylchu bagiau te yn ffordd rwydd o gael effaith fawr ar gyfraddau ailgylchu Cymru, a gobeithio ein codi i frig y siartiau ailgylchu.”
I ddysgu mwy, gwyliwch ein fideo am faint o fagiau te rydym yn eu defnyddio yng Nghymru a phwysigrwydd ailgylchu bagiau te yma.
Mae gwybodaeth bellach am sut gall bagiau te bweru bywyd coleg yn y rhestr isod.
- Gwaith cwrs wedi’i bweru gan de. Gallai ailgylchu 36 bag te bweru cyfrifiadur am un awr.
- Trowch eich te yn danwydd i’ch ffôn! Gall ailgylchu dau fag te gynhyrchu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn.
- Pwerwch y parti’r penwythnos hwn – gallai ailgylchu un bag te a hanner gynhyrchu digon o drydan i bweru pêl ddisgo am un awr.
- Eich dos o gaffein – gallai ailgylchu chwe bag te gynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell am ddisgled arall.
Dy wasanaeth lleol
Mae pob un o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol hwylus. Y cwbl fyddi di ei angen yw cadi cegin, bin ailgylchu bwyd a rholyn o fagiau leinio i gychwyn arni.
Dewis dy ardal cyngor o’r map er mwyn archebu dy finiau a darganfod mwy am dy wasanaeth lleol.