O WASTRAFF BWYD LLEOL I YNNI LLEOL I HELPU I BWERU GWYNEDD
Mae Ailgylchu dros Gymru a Chyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth i lansio ymgyrch i ddangos sut y gall gwastraff bweru ein cymunedau.

Drwy Gymru gyfan, rydym yn ailgylchu oddeutu hanner ein holl wastraff bwyd, ond mae Ailgylchu dros Gymru ar gyrch i gynyddu lefelau ailgylchu i 70% erbyn 2025, a chwalu targedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Ar gyfartaledd, ym mhob bin gwastraff yng Nghymru, mae 25% o’r gwastraff yn fwyd y gellid ei ailgylchu a’i droi yn ynni i bweru cartrefi lleol yng Ngwynedd.
Pan fo trigolion Gwynedd yn rhoi eu gwastraff bwyd allan bob wythnos ar gyfer ei gasglu gan y cyngor, caiff ei gludo i gyfleuster prosesu ‘Treulio Anaerobig’ ger Caernarfon, lle caiff ei droi’n ynni a’i fwydo i’r Grid Cenedlaethol. Yn 2016 yn unig, cynhyrchodd y gwaith hwn ddigon o drydan i bweru dros 1000 o gartrefi am flwyddyn gyfan.
Gallai’r ynni eilgylch hwn hefyd bweru ein hadeiladau cymunedol. Gallai 124 o grwyn banana wedi’u hailgylchu bweru sgrîn yn sinema Pontio am ddwy awr, digon i wylio’r ffilm ddiweddaraf y penwythnos hwn! Pe bai pob un o drigolion Gwynedd yn ailgylchu un croen banana, gallai gynhyrchu digon o drydan i bweru ysgol gyffredin am bron i ddiwrnod a hanner.
Mae pob un cartref yn cynhyrchu gwastraff bwyd a ellir ei ailgylchu: croen tatws, plisgyn ŵy, crwyn bananas, esgyrn cig a bagiau te yw rhai o’r eitemau a gaiff eu disgrifio fel ‘gwastraff bwyd anochel’.
Mae’r gwastraff hwn, o gael ei anfon i safle tirlenwi, yn cynhyrchu methan, nwy tŷ gwydr niweidiol. Os caiff ei anfon ar gyfer treulio anaerobig, gellir rheoli’r methan a’i droi yn drydan.
Er enghraifft, gallai 32 o grwyn banana wedi’u hailgylchu gynhyrchu digon o drydan i bweru cartref teulu cyffredin am awr. Gall bagiau te, esiampl wych arall o wastraff bwyd nad ellir ei fwyta, hefyd greu trydan – mae cyn lleied â 22 o fagiau te wedi’u hailgylchu yn creu digon o ynni i bweru sugnwr llwch am 10 munud – sawl panad rydych chi’n ei gwneud mewn wythnos?
Meddai Steffan Jones, Uwch Reolwr Gwastraff a Chomisiynu Cyngor Gwynedd: “Gwyddom fod nifer o bobl yn ailgylchu eu bwyd, sydd yn wych, ond gwyddom hefyd ei bod yn amlwg fod llawer mwy y gallwn ei wneud. Mae pob un dim rydyn ni’n ei ailgylchu yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i faint o ynni y gallwn ei greu i’n cymuned leol, wrth helpu Cymru ddod yn un o genhedloedd ailgylchu gorau’r byd.”
Beth allaf ei ailgylchu?
Gallwch ailgylchu unrhyw fwyd, a’ch holl wastraff bwyd – ond dim hylifau, os gwelwch yn dda. Cadwch lygad am yr eitemau gwastraff bwyd anochel canlynol wrth goginio i’r teulu:
- Esgyrn cyw iâr neu gig;
- Bagiau te a gwaddodion coffi;
- Crwyn ffrwythau a llysiau;
- Plisgyn ŵy; a
- Crafion oddi ar eich plât.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Ailgylchu Bwyd.