TIRNODAU CYMRU YN HOLLOL BANANAS DROS AILGYLCHU BWYD
Mae bananas anferthol wedi ymddangos yn nifer o atyniadau poblogaidd Cymru, ers iddynt ymddangos yn gyntaf yng Nghlwb Rygbi Pontypridd.
Cychwynnodd y bananas ar eu hynt yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, a byddant yn teithio ledled y wlad, yn ymweld â llefydd fel Zip World Fforest Fach, Zip World Llechwedd, Castell Caernarfon a Theatr Clwyd, mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth am sut y gall gwastraff bwyd gael ei droi’n ynni.
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i wisgo siwt banana ym mhob lleoliad, a gallant hyd yn oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys: rygbi saith bob ochr, trampolinio yn y coed, neidio ac archwilio ceudyllau tanddaearol, edmygu tirnod hynaf Caernarfon, neu ymuno â’r cast ar y llwyfan yn Theatr Clwyd – a hyn oll wrth ddysgu sut mae cartrefi’n cynhyrchu 7.3 miliwn o dunelli o wastraff bwyd bob blwyddyn, yn cynnwys 240,000 tunnell o grwyn banana.
Mae Clwb Rygbi Pontypridd, y lleoliad cyntaf i weithio mewn partneriaeth ag Ailgylchu dros Gymru, ymgyrch ailgylchu Nghymru, wedi datgelu mai dim ond 40 o grwyn banana wedi’u hailgylchu sydd eu hangen i bweru’r llifoleuadau am 10 munud o’r gêm yng Nghlwb Rygbi Pontypridd. Gwell fyth, pe bai pob un o drigolion RCT yn ailgylchu un croen banana, byddai’n pweru llifoleuadau Stadiwm Pontypridd am 41 diwrnod!
Datgelodd Castell Caernarfon mai 480 o grwyn banana sydd angen eu ailgylchu i bweru’r castell am un awr. Mae hynny’n 8 croen banana bob munud!
Datgelodd Theatr Clwyd pe bai pob un o drigolion Sir y Fflint yn ailgylchu un croen banana, byddai’n pweru’r ganolfan gelfyddydau am ddiwrnod cyfan,
...a phe bai crwyn bananas yn pweru Zip World, dim ond 180 fyddai eu hangen i bweru eu safle yn Ffestiniog.
Mae tua 210,000 tunnell o wastraff bwyd cartrefi yn cyrraedd safleoedd tirlenwi ledled Cymru, gwastraff sydd yn cyfrannu at gynhyrchu methan, nwy tŷ gwydr peryglus. Pe bai’r bwyd yn cael ei ailgylchu, gellid defnyddio’r methan a’i droi yn ynni i bweru cymunedau.
Eglurodd Angela Spiteri, o Ailgylchu dros Gymru, pam fod bananas yn ymweld ag atyniadau poblogaidd Cymru: “Er bod hanner cartrefi Cymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, mae mwy y gallem fod yn ei wneud. Pan rydyn ni’n holi pobl yng Nghymru pam nad ydyn nhw’n ailgylchu eu gwastraff bwyd, maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n meddwl eu bod yn cynhyrchu digon i drafferthu gwneud.
"Mewn gwirionedd, rydyn ni oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd nad ellir ei fwyta, dim ots pa mor gydwybodol ydyn ni. Mae eitemau nad oes modd eu hosgoi, fel bagiau te, plisgyn ŵy, crwyn tatws ac, wrth gwrs, crwyn banana, oll yn gallu cael eu hailgylchu er nad oes modd eu bwyta. Dyna pam y gwnaethon ni benderfynu tynnu sylw pobl at y mathau hyn o fwyd – i atgoffa pawb y gallwn ni oll ailgylchu gwastraff bwyd a rhoi bywyd newydd iddo fel ynni.”
Sut mae bananas yn creu ynni?
Pan fyddwn ni’n ailgylchu bananas, neu unrhyw fwyd yng Nghymru, fel arfer caiff ei anfon i gyfleuster prosesu treulio anaerobig. Mae treulio anaerobig yn golygu fod bwyd yn cael ei dorri i lawr yn naturiol ac yn troi’n fethan a nwy carbon deuocsid. Mae’r nwyon hyn wedyn yn cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan i bweru cartrefi a’r gymuned leol.
Yn 2016, yng nghyfleuster Bryn Pica, sy’n cael ei redeg gan Biogen, cynhyrchwyd digon o drydan i bweru 2,249 o gartrefi. Mae hyn hefyd yn cynhyrchu gwrtaith a ellir ei ddefnyddio mewn amaeth ledled y wlad.
Gwyddwn sawl banana sydd ei angen i bweru Clwb Rygbi Pontypridd, ond faint o wastraff bwyd mae’n ei gymryd i bweru rhai o’n gweithgareddau bob dydd yn y cartref?
- Am bob wyth croen banana neu chwe bag te rydyn ni’n ei ailgylchu, gellir cynhyrchu digon o ynni i ferwi’r tegell a gwneud disgled;
- Mae un cadi cegin o wastraff bwyd yn cynhyrchu digon o drydan i wylio gêm bêl-droed ar y teledu;
- Mae ailgylchu tri chroen banana yn cynhyrchu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am un funud.
Pa wastraff anorfod y gallaf ei ailgylchu?
- Bagiau te a gronynnau choffi;
- Crafion ffrwythau a llysiau;
- Esgyrn pysgod a chig; a
- Plisgyn ŵy.
Os oes gennych fathau arall o wastraff bwyd, fel gweddillion o’ch plât, neu fwyd sydd tu hwnt i’w ddyddiad defnyddio, gellir ailgylchu’r rhain hefyd.
Mae ailgylchu bwyd ar gael i bron bob cartref yng Nghymru. Dysgwch ragor am sut i ailgylchu yng Nghymru ac am eich gwasanaeth lleol drwy ymweld ein tudalen Gwastraff Bwyd.