Pa offer sydd ei angen arnaf?
Mae’r holl offer ailgylchu ar gael gan eich cyngor lleol. Rydym wedi llunio rhestr o’r mathau gwahanol y gellir eu defnyddio yn eich ardal chi. Sylwer y gall fod gan rai awdurdodau lleol systemau gwahanol ar gyfer casglu deunydd i’w ailgylchu. Cysylltwch â nhw i gael yr offer cywir ar gyfer eich ardal.
Blwch gwastraff bwyd cegin
Blwch bach ar gyfer gwastraff bwyd. Maent ar gael mewn lliwiau gwahanol gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw. Rhowch leinin blwch yn y blwch a rhoi’r bwyd yn y bagiau. Pan fydd yn llawn, rhowch y bagiau o fwyd gwastraff yn eich blwch ar garreg y drws.
Blwch gwastraff bwyd ar garreg y drws
Dyma’r blwch mawr y dylid rhoi cynnwys y blwch cegin ynddo pan fydd yn llawn. Mae’r rhain ar gael mewn lliwiau gwahanol hefyd, gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw. Caiff y rhain eu casglu gan eich cyngor yn wythnosol.
Gwiriwch wefan y cyngor i weld pa ddiwrnod y mae angen i chi roi’r rhain allan i’w casglu.
Leiniau blychau ar gyfer eich blwch/bin gwastraff cegin
Mae rhai cynghorau yn eu darparu’n rhad ac am ddim ac maent ar gael mewn llyfrgelloedd a siopau lleol. Mae rhai cynghorau’n codi ffi fach, ac mae rhai eraill yn awgrymu eu leinio â phapur newydd. Sylwer, peidiwch â defnyddio bagiau plastig gan nad ydynt yn fioddiraddadwy.
Fel yr uchod, dylid defnyddio’r rhain i leinio eich blwch cegin bach.
Bagiau ailgylchu
Gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw, gall fod un math neu fwy. Dilynwch gyfarwyddyd eich cyngor ynglŷn â beth ddylid ei roi ym mha fag. Er enghraifft, mae gan Gyngor Caerdydd fag gwyrdd ar gyfer yr holl ddeunydd ailgylchu sych. Gellir cael bagiau gan eich cyngor mewn llyfrgelloedd, siopau lleol a.y.y.b.
Cysylltwch â’ch cyngor i ddarganfod mwy.
Blychau ailgylchu
Gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw, mae’r rhain ar gael mewn lliwiau gwahanol. Defnyddir blychau ailgylchu’n bennaf ar gyfer eitemau sych i’w hailgylchu, fel papur/cerdyn, poteli, eitemau plastig. Os nad ydych yn siwr beth ddylech roi yn eich blwch neu os nad oes gennych chi un, ewch i wefan eich awdurdod lleol.
Biniau olwynion
Maent ar gael mewn amrywiaeth o liwiau, gan ddibynnu ble rydych chi’n byw. Nid yw pob ardal yn defnyddio biniau olwynion, ond os ydych yn gymwys ac nid oes gennych chi un,cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Bagiau gwastraff gardd
Mae rhai cynghorau’n defnyddio’r rhain i gasglu eich gwastraff gardd yn lle biniau olwynion. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael manylion os oes arnoch angen un. Mae rhai cynghorau’n codi tâl am y bagiau hyn ac mae rhai cynghorau’n codi tâl am gasglu gwastraff gardd. Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i’ch canolfan ailgylchu agosaf yn rhad ac am ddim
Biniau Compost
Mae rhai eitemau bwyd, gardd neu wastraff ‘gwyrdd’ fel glaswellt, dail, brigau a phlanhigion yn bioddiraddiadwy, a byddant yn pydru’n hawdd a naturiol mewn bin compost! Mae llawer o gynghorau’n darparu biniau compost am bris gostyngol. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ddarganfod mwy.e.