Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Sut y caiff ei ailgylchu?
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Esbonio symbolau deunydd pacio

Pan rydych yn barod i daflu deunydd pacio, edrychwch ar y label i weld a ellir ei ailgylchu

Mae gwasanaeth casglu deunydd i’w ailgylchu ar garreg y drws ar gael ar gyfer y rhan fwyaf i gartrefi yng Nghymru. Darganfyddwch beth y gallwch ei ailgylchu yn eich ardal yn gyntaf.

Mae nifer o labeli yn ymddangos ar ddeunydd pacio i gynghori defnyddwyr a hyrwyddo honiadau amgylcheddol.

I’ch helpu i ddeall yr holl symbolau y gallech eu gweld, edrychwch ar y canllaw isod.

Cyffredinol

Lansiwyd y cynllun Labelu Ailgylchu ar y Pecyn mewn ymateb i geisiadau gan siopwyr am gyngor mwy safonol a hawdd i’w ddeall ynglŷn â pha gynhyrchion y gellir eu hailgylchu.

Cynlluniwyd yr eicon ‘Recycle Now’ fel y symbol cydnabyddedig ar gyfer ailgylchu ac mae’n darparu cyngor ar sut y gellir ailgylchu eitem o ddeunydd pacio.  

Widely recycled at recycling points.jpg

Widely recycled at recycling points

Mae “Widely Recycled” yn golygu bod gan 75% o bobl fynediad at gyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr eitemau hyn.

Mae “Check locally” yn golygu bod gan 20% - 75% o bobl fynediad at gyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr eitemau hyn.

Mae “Not recycled” yn golygu bod gan lai na 20% o bobl fynediad at gyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr eitemau hyn.

Mae symbol hefyd ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu’n llai eang e.e. Tetra Paks a deunydd pacio ffoil. Mae’n cynghori defnyddwyr i wirio a yw’r deunydd yn cael ei gasglu gan eu cyngor lleol, naill ai ar garreg y drws neu mewn canolfan ailgylchu leol.

Dolen Mobius

Mobius Loop label

Mobius Loop label
Deallir yn gyffredinol mai dyma’r symbol rhyngwladol ar gyfer ailgylchu. Mae’n dangos bod modd ailgylchu’r eitem – nid bod yr eitem wedi cael ei ailgylchu. 

Symbol Canran Dolen Mobius

Mobius Loop percentage label

Mobius Loop percentage label
Mae’n dangos canran y deunydd wedi’i ailgylchu sydd wedi cael ei ddefnyddio wrth greu’r deunydd pacio. Gwelir y symbol hwn ar gardfwrdd yn gyffredin.

Plastigion

Mae chwe math gwahanol o bolymer plastig yn cael eu defnyddio’n gyffredin i wneud deunydd pacio. Triongl gyda rhif y tu mewn iddo a rhai llythrennau oddi tano yw’r symbol a ddefnyddir i amlygu’r math o bolymer. Mae poteli PET a HDPE yn rhai o’r plastigion mwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn deunydd pacio a chânt eu hailgylchu gan y mwyafrif o awdurdodau lleol.

Yn anffodus, nid yw’r triongl yn golygu y gall y deunydd pacio o angenrheidrwydd gael ei ailgylchu.

Plastic Symbols_002.png

Metelau

Aluminium label

Aluminium label
Mae’r symbol hwn yn golygu bod y deunydd pacio wedi’i wneud o alwminiwm.


steel.png

Mae’r symbol hwn yn golygu bod y deunydd pacio wedi’i wneud o ddur.

Gwydr

Glass label

Glass label
Mae’r symbol hwn yn atgoffa pobl i ailgylchu eu poteli a jariau gwydr gwag. Gallai hwn fod yn gasgliad ar garreg y drws, os yw ar gael, neu fanc poteli.

Gellir ei gompostio

CompostableLogo 2.jpg

Mae’r symbol hwn yn dangos bod y deunydd pacio wedi’i wneud o ddeunydd organig a bydd yn pydru’n naturiol. Byddwch mwy na thebyg yn gweld y logo hwn os ydych yn defnyddio leinin yn eich blychau ailgylchu gwastraff bwyd.

Felly, mae’n bwysig mai DIM OND bagiau y gellir eu compostio sydd â’r symbol canlynol a ddefnyddir yn y blychau. 

Papur

paper-192x180.png

I gael marc Cymdeithas Genedlaethol Masnachwyr Papur, mae’n rhaid i bapur neu gardfwrdd fod wedi’i wneud o isafswm o 75% o bapur gwastraff gwirioneddol a/neu ffibr bwrdd, ac ni ddylai unrhyw ran gynnwys ffibr gwastraff a gynhyrchwyd mewn melin.

Pren

FSC label

FSC label
Mae logo’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd yn amlygu cynhyrchion sy’n cynnwys pren o goedwigoedd a reolir yn dda a ardystir yn annibynnol yn unol â rheolau’r Cyngor.

Offer trydanol ac electronig

electric-125x145.png

Gellir gweld y bin olwynion â chroes drwyddo ar eitemau fel batris, ac eitemau trydanol ac electronig. Mae’n debygol na fyddwch yn gallu ailgylchu’r eitemau hyn ar garreg y drws; fodd bynnag, mae’n debygol y gellir eu hailgylchu yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol.


Green dot

Green dot
NID yw’r Dot Gwyrdd o angenrheidrwydd yn golygu y gellir ailgylchu’r deunydd pacio. Mae’n symbol a ddefnyddir ar ddeunydd pacio mewn nifer o wledydd Ewropeaidd ac mae’n nodi bod y cynhyrchydd wedi gwneud cyfraniad at ailgylchu deunydd pacio.

Tidyman

Tidyman label

Tidyman label
Mae’r symbol hwn yn atgoffa pobl i waredu eu gwastraff yn ofalus ac ystyriol. Peidiwch â thaflu sbwriel. Nid yw’n gysylltiedig ag ailgylchu, ond mae’n eich atgoffa i fod yn ddinesydd da, a gwaredu’r eitem yn y ffordd fwyaf priodol.

Dal wedi drysu?

Os oes unrhyw symbol neu logo nad ydych yn ei ddeall, cysylltwch â ni.

Related pages

Alla' I ei ailgylchu

Lleoliad Ailgylchu

Gwybodaeth Ailgylchu

  • Sut y caiff ei ailgylchu?
  • Pam ailgylchu?
  • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
  • Esbonio symbolau deunydd pacio
  • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Cymru yn Ailgylchu

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU