Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Dechreuwyr yn dangos i ni sut i ailgylchu

Dechreuwyr yn dangos i ni sut i ailgylchu

Mae James, Liam, Megan ac Amber yn fyfyrwyr nodweddiadol ac yn dda iawn am ailgylchu! Darllenwch eu hawgrymiadau ynglŷn â sut y gwnaethant ddechrau arni, sut gwnaethant ddod o hyd i ddyddiadau casglu, sut i ailddefnyddio, a’u pump prif awgrym ar gyfer ailgylchu.

Yn ein blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, roedd ein neuaddau preswyl yn cynnig cipolwg da iawn ar ailgylchu. Roeddent yn cynnig dau fin, sef un ar gyfer gwastraff cyffredinol ac un ar gyfer ailgylchu. Ers hynny, daeth rhannu deunydd i’w ailgylchu o wastraff yn arferiad, ac mae mor hawdd i’w wneud hefyd gan mai dim ond rhoi’r deunydd pacio mewn bag lliw gwahanol sydd angen ei wneud. Hefyd, mae gwybod ein bod ni’n ceisio helpu’r amgylchedd yn gwneud i ni deimlo ychydig yn well.

Gan eu bod yn dod o’r ardal leol, roedd James, Liam a Megan yn eithaf cyfarwydd â’r systemau ailgylchu. Fodd bynnag, roedd Amber yn ansicr, gan fod y system ychydig yn wahanol yn Lloegr. Ond ar ôl ffonio Cyngor Caerdydd roedd y system llawer cliriach. Gwnaethant roi’r dyddiadau casglu i ni a pha wythnos oedd p’un, ac anfon pecyn cychwyn. Pan symudom i mewn i’n tŷ yn yr ail flwyddyn, cawsom becyn a oedd yn esbonio pryd oedd ein dyddiad casglu, a pha fath o wastraff yr oedd angen i ni ei roi allan a.y.y.b.

Cysylltu â’ch cyngor

Fodd bynnag, os nad ydych yn gwybod beth yw’ch dyddiadau casglu, pa wastraff sy’n cael ei gasglu pa wythnos ac yn y blaen, gallwch ffonio’r cyngor i gael y wybodaeth. Roeddent yn hyfryd, yn gyfeillgar ac yn gynorthwyol.

Yn ein tŷ, ein prif bin yw’r bin ailgylchu. Mae hyn yn beth da gan fod y deunydd i’w ailgylchu’n cael ei gasglu bob wythnos, felly mae tipyn yn fwy taclus a phleserus gan fod llai o fagiau bin o gwmpas y lle. Hefyd, mae gennym fag du ar gyfer ein gwastraff cyffredinol, sydd prin yn llawn o gwbl ar ôl pythefnos, sy’n profi ei bod hi mor hawdd ailgylchu pethau.

Mae ailgylchu mor hawdd

Rydym yn ailgylchu gan ei fod yn rhywbeth sy’n hawdd iawn i’w wneud a gall pawb ei wneud. Mae hefyd yn helpu’r amgylchedd ac yn gwneud i chi deimlo ychydig yn well amdanoch chi eich hun nad ydych yn bod yn hollol anwybodus ynglŷn â gwastraff a’ch bod chi’n ceisio gwneud rhywbeth i helpu. 

Rydym yn ailddefnyddio popeth!

Rydym yn ailddefnyddio jariau gwydr at ddibenion gwahanol, rydym hefyd (yn amlwg) yn ailddefnyddio bagiau plastig ar gyfer mynd i siopa. Rydym yn ailddefnyddio ein poteli plastig fel poteli yfed. Rydym yn ailgylchu ein caniau tun, blychau, deunydd pacio plastig, cardbwrdd, potiau plastig, tybiau prydau parod plastig, powlenni plastig, poteli gwydr; y rhan fwyaf o bethau a dweud y gwir.

Ond os nad ydych yn siwr beth i’w wneud, byddwn yn argymell cysylltu â’r cyngor, gwneud cais am becyn cychwyn, neu hyd yn oed edrych ar y wefan, gan yr esbonnir y rhan fwyaf o bethau ar honno. Mae ailgylchu’n rhywbeth hawdd iawn i’w wneud ac mae wedi dod yn rhan o drefn bob dydd sy’n cymryd braidd dim amser o gwbl.

Dyma ein pump prif awgrym ar gyfer ailgylchu - mae’r rhain yn gymwys i fyfyrwyr newydd neu os ydych yn newydd i ailgylchu: 

  1. Cysylltwch â’r cyngor i gael pecyn cychwyn/croeso.
  2. Newidiwch eich prif fin i fod yn fin ailgylchu (cewch eich synnu faint y gallwch ei ailgylchu)
  3. Edrychwch ar-lein am ffyrdd dyfeisgar i ailddefnyddio eitemau a chreu pethau da.
  4. Os ydych yn besimistaidd ynglŷn ag ailgylchu, rhowch gynnig arni am wythnos a chewch weld pa mor hawdd yw hi i ailgylchu.
  5. AILGYLCHWCH, nid yw’n anodd!

Diolch am y cyngor!

 

 

Gwybodaeth Ailgylchu

  • Pam ailgylchu?
  • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
  • Esbonio symbolau deunydd pacio
  • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Ailgylchu Dros Gymru

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU