Mae mwy a mwy o bobl yn ailgylchu eu gwastraff bwyd i greu pŵer
Mae mwy a mwy o bobl yn ailgylchu eu gwastraff bwyd i greu pŵer
Gyda dros 80% ohonoch bellach yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, mae Cymru ar flaen y gad. A dweud y gwir, trigolion Cymru yw’r trydydd gorau yn y byd am ailgylchu! Mae hynny’n anhygoel!
Pan gaiff ei ailgylchu, caiff eich gwastraff bwyd ei droi yn drydan i helpu i bweru cartrefi a chymunedau ledled Cymru.
Sawl bag te wedi’i ailgylchu a fyddai’n ei gymryd i bweru cartref cyffredin am un awr?
Dewiswch yr ateb cywir i bweru’r tŷ
Sut gall fy ngwastraff bwyd wedi’i ailgylchu gynhyrchu trydan?
Pan rwyt ti’n rhoi dy wastraff bwyd yn y bin sbwriel, mae’n aml yn mynd i safle tirlenwi, lle mae’n pydru a gollwng methan – nwy tŷ gwydr niweidiol. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru yn anfon eu bwyd i gyfleuster prosesu ‘Treulio Anaerobig’ – sydd yn dal y methan a’i droi’n ynni. Fe fyddech chi’n synnu beth allwch chi ei bweru trwy ailgylchu eitemau cyffredin fel bagiau te a chrwyn bananas:
Eich hoff gerddoriaeth
Os ydych chi’n paratoi am noson allan, neu’n coginio te i’r plant, mwynhewch eich hoff gerddoriaeth wrth wneud. Gallai dim ond 5 croen banana wedi’i ailgylchu gynhyrchu digon o ynni i chwarae Tom Jones’ Greatest Hits ar eich stereo gartref.
Darganfod eich gwasanaeth ailgylchu lleolGwaith tŷ
Ie, dyna ni, y gwaith tŷ! Felly ewch i wneud dishgled a gadewch i’r hen fagiau te wneud y gwaith caled. Gallai ailgylchu 22 fag te bweru’r sugnwr llwch am 10 munud cyfan... digon o amser i dretio’ch hunan i ddishgled arall!
Darganfod eich gwasanaeth ailgylchu lleolGwylio’r teledu
Afal i bawb o bobl y byd! P’un ai gwneud saws afalau ar gyfer y cinio dydd Sul ydych chi, neu dim ond mwynhau byrbryd iachus, cofiwch ailgylchu’r craidd. Gall 52 o greiddiau afalau wedi’u hailgylchu bweru teledu am 1 awr – digon ar gyfer eich hoff raglen y penwythnos hwn!
Darganfod eich gwasanaeth ailgylchu lleolDiod nos Wener
Gellir ailgylchu gwaddodion coffi, crafion llysiau, plisgyn ŵy, esgyrn a gweddillion bwyd. Rhowch nhw yn eich cadi bwyd a gadael iddyn nhw wneud eu gwaith. Gall llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr ... hen ddigon hir i oeri’r botel win yna yn barod at nos Wener!
Archebu cadiMynd ati i ailgylchu
Archebu cadi a bin i’r tu allan
Mae pob un o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol hwylus. Y cwbl fyddi di ei angen yw cadi cegin, bin ailgylchu bwyd a rholyn o fagiau leinio i gychwyn arni.
Dewis dy ardal cyngor o’r map er mwyn archebu dy finiau a darganfod mwy am dy wasanaeth lleol a sut gallwch chi ymuno â’r 70% o bobl Cymru sydd eisoes yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.