Skip to main content
English
English

Dodrefn ystafell ymolchi – toiledau, sinciau a baddonau

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae’n bosibl ailgylchu dodrefn ystafell ymolchi yn rhai o’n mannau ailgylchu oddi cartref – mwy o wybodaeth isod.

Sut i ailgylchu dodrefn ystafell ymolchi

  • Pan fo sinciau, toiledau a baddonau wedi cracio, neu pan fyddan nhw heibio’u gorau yn gyffredinol, ac na ellir eu defnyddio at ddiben arall neu eu gwerthu ymlaen, gellir cael gwared arnynt mewn canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol;

  • Os ydych chi’n defnyddio fan, gwiriwch gyda’r ganolfan ailgylchu rhag ofn bod angen unrhyw ganiatâd neu brawf adnabod. Cofiwch wirio’r oriau agor hefyd, gan eu bod weithiau’n amrywio ar gyfer ceir a faniau;

  • Bydd rhai canolfannau ailgylchu’n gofyn ichi roi’r eitemau hyn yn y sgipiau ar gyfer Rwbel, a bydd gan rai eraill sgipiau yn arbennig ar gyfer eitemau ceramig;

  • Dylid tynnu tapiau a’u rhoi yn y sgipiau ar gyfer Metelau Cymysg;

  • Gwiriwch gyda’ch cyngor lleol i weld a ydyn nhw’n darparu gwasanaeth casglu ar gyfer eitemau mawr, swmpus.

Dod o hyd i’ch lleoliad agosaf i ailgylchu deunyddiau adeiladu

Mae’n dda gwybod

  • Gellir ailddefnyddio eich hen ddodrefn ystafell ymolchi, neu eu defnyddio at ddiben newydd, e.e. Gellir defnyddio Sinciau Belfast i blannu blodau.

Mae marchnadoedd ar gyfer dodrefn ystafell ymolchi ail-law, fel Gumtree, FreeCycle, Marketplace ar Facebook ac iardiau adfer.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon