Beth i'w wneud gyda
TACLAU GARDDIO

Ble gallaf i ailgylchu? »
Gall llawer o daclau llaw garddio gael eu hailddefnyddio gan bobl eraill, hyd yn oed os oes angen atgyweiriadau syml arnynt. Fodd bynnag, os nad oes modd eu trwsio, gallwch eu hailgylchu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, ambell waith.
Pasiwch nhw ymlaen…
Sefydliadau cymunedol a sefydliadau ailddefnyddio
- Rhowch unrhyw daclau llaw garddio, gan gynnwys y rhai sydd angen atgyweiriadau syml, i sefydliadau sy’n gallu eu hailddefnyddio.
Ar-lein
Pasiwch eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau fel Freecycle aFreegle;
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau – yn aml, gallant ddefnyddio’r pethau nad oes arnom eu heisiau mwyach;
- Gwerthwch eitemau’n lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer eitemau sydd bron â bod yn newydd ac arwerthiannau moes a phryn;
- Hysbysebwch yn eich papur newydd lleol neu ar hysbysfyrddau lleol.
Rhowch gynnig ar eu trwsio…
Gall llawer o’r pethau rydym yn eu taflu i’r sbwriel eu trwsio’n weddol hawdd a rhad, yn aml. Ddim yn siŵr sut i wneud hynny?
- Gofynnwch am help gan ffrindiau a pherthnasau – efallai y byddwch wedi’ch syfrdanu pa mor ‘fedrus’ y mae rhai o’ch ffrindiau!
- Chwiliwch ar-lein am gyngor ac awgrymiadau ar gyfer trwsio taclau llaw. Mae yna rai canllawiau fideo cam-wrth-gam ar YouTube.
Ailgylchwch nhw…
- Ni allwch roi taclau llaw garddio yn eich bin ailgylchu gartref;
- Gwiriwch â’ch cyngor lleol i weld a ydynt yn derbyn taclau llaw garddio yn y ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Mae’r gwasanaeth hwn yn amrywio ar draws y wlad, felly mae’n bwysig gwirio’n gyntaf.