Skip to main content
English
English

Plastigion Compostadwy

Ailgylchu gartref

Na, ni ellir ailgylchu plastigion compostadwy gartref ar hyn o bryd.

Sut i ailgylchu plastigion compostadwy

Ni ellir rhoi plastigion compostadwy gyda’ch ailgylchu plastig gan na ellir eu hailgylchu yn yr un ffordd. Maent wedi’u dylunio i dorri i lawr dan amodau compostio penodol iawn, yn hytrach na chael eu hailgylchu.

Plastigion i’w compostio gartref a phlastigion i’w compostio’n ddiwydiannol – beth yw’r gwahaniaeth?

Fe welwch symbol ar y plastig sy’n nodi ai compostio gartref neu gompostio diwydiannol sy’n addas i’r deunydd hwnnw. Gallwch wirio’r deunydd pacio gan y dylai hyn gael ei nodi – darllenwch fwy am y labeli i gadw golwg amdanynt.

  • Gellir rhoi plastigion compostio gartref sydd â label yn dweud hynny ar eich tomen gompost gartref;

  • Mae angen i blastigion compostio diwydiannol (fel rhai bagiau leinio cadis bwyd) gael eu rhoi mewn cadi bwyd sy’n cael ei anfon i’w gompostio, neu gyda gwastraff gardd; ond nid yw hyn yn opsiwn i bawb gartref.

Holwch eich cyngor lleol i ddarganfod beth i’w wneud â phlastigion ar gyfer compostio diwydiannol yn eich ardal chi.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon