Beth i'w wneud gyda
PAPUR LAPIO

Ble gallaf i ailgylchu? »
Bydd rhai cynghorau’n derbyn papur lapio â’ch cynllun casgliad ailgylchu gwastraff y cartref, ond ni fydd eraill yn gwneud hynny - gwiriwch â nhw’n gyntaf.
Beth mae wedi’i wneud ohono?
Mae’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio i wneud rhai mathau o bapur lapio yn golygu nad yw’n cael ei dderbyn ar gyfer ei ailgylchu bob tro:
- Yn aml, mae papur lapio’n cael ei liwio, ei lamineiddio ac/neu mae’n cynnwys ychwanegion nad ydynt wedi’u gwneud o bapur, fel siapiau lliw aur ac arian, pefriad, plastigion ac ati, na ellir eu hailgylchu;
- Mae rhai mathau o bapur lapio’n denau iawn ac yn cynnwys ychydig iawn o ffibrau o ansawdd da i’w hailgylchu;
- Mae gan lawer o bapur lapio dâp glynu yn sownd wrtho, sy’n ei wneud yn anodd iawn ei ailgylchu.
Sut dylwn i ei ailgylchu?
Gwiriwch â’ch cyngor lleol...
- Mae rhai cynghorau’n eich caniatáu i roi papur lapio yn eich bin ailgylchu gartref;
- Mae cynghorau eraill yn gofyn i chi ailgylchu papur lapio yn y ganolfan ailgylchu;
- Nid yw rhai cynghorau’n casglu papur lapio o gwbl, oherwydd nid yw papur lapio’n cael ei dderbyn gan roi melinau papur wedi’i ailgylchu. Mae nifer o resymau dros hyn.
Prynwch bapur wedi’i ailgylchu!
Ceisiwch brynu papur lapio sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Weithiau, nid yw’n hawdd dod o hyd iddo mewn siopau, ond mae’r gwefannau hyn yn ddefnyddiol:
- Recycled Paper Supplies yn gwerthu papur lapio wedi’i ailgylchu.
Os gwelwch yn dda gwyliwch y fideo isod i gael cyfarwyddiadau ar Furoshiki neu sut i ddefnyddio brethyn i lapio anrhegion, yn wahanol i bapur (sydd fel arfer na ellir ei ailgylchu) Gellir Furoshiki yn cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro lapio.