Beth i'w wneud gyda
PAPUR CEGIN

Ble gallaf i ailgylchu? »
Mae’r tiwb cardbord mewnol yn cael ei gasglu’n eang fel rhan o’ch cynllun ailgylchu gwastraff y cartref; fodd bynnag, dylech roi dalennau o bapur cegin a ddefnyddiwyd yn eich bin sbwriel, oni bai bod eich cyngor yn dweud fel arall.
- Y tiwb cardbord mewnol – Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n casglu cardbord fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu gwastraff y cartref y maent yn ei gynnig, neu gallwch fynd ag ef i ganolfan ailgylchu.
- Papur cegin – Os yw eich cyngor yn casglu gwastraff bwyd fel rhan o’ch cynllun ailgylchu gwastraff y cartref, bydd rhai ohonynt yn caniatáu i chi roi rhywfaint o bapur cegin yn y bin gwastraff bwyd. Gwiriwch â’ch cyngor yn y lle cyntaf, oherwydd bod cynlluniau’n amrywio.