Skip to main content
English
English

Ffoil

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Ffoil mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Pa eitemau ffoil neu alwminiwm y gellir eu hailgylchu?

Yn ogystal â ffoil, gallwch ailgylchu eitemau alwminiwm, ond ichi gofio eu rinsio i wneud yn siŵr eu bod yn lân a heb weddillion bwyd, saim neu olew arnynt, a thynnu unrhyw gaeadau plastig ystwyth neu ddeunyddiau pacio eraill.

  • Tybiau ffoil, barbeciws tafladwy a chynwysyddion bwyd tecawê;

  • Ffoil cegin, caeadau alwminiwm oddi ar botiau a deunyddiau lapio;

  • Caniau diodydd;

  • Caeadau poteli llaeth;

  • Tybiau rhewi;

  • Ffoil sigaréts a thybaco;

  • Caeadau poteli gwin – ailgylchwch y rhain gyda’r caeadau ar y poteli;

Sut i ailgylchu ffoil neu alwminiwm

  1. 1

    Rhaid i ffoil fod yn lân, heb staeniau a heb fwyd, saim ac olew arno. Rhowch unrhyw ffoil budr neu wedi staenio yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;

  2. 2

    Rhaid i ffoil fod heb unrhyw fathau eraill o ddeunydd pacio, fel caeadau plastig ystwyth, arno. Tynnwch yr eitemau hyn oddi ar y ffoil a rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;

  3. 3

    Sychwch dybiau ffoil neu gallwch eu trochi yn eich dŵr golchi llestri i gael gwared ar unrhyw friwsion neu weddillion bwyd;

  4. 4

    Gadewch gaeadau sgriwio alwminiwm ar jariau gwydr a photeli gwin.

Sut i wirio a oes modd ailgylchu eich ffoil

  • Gall eitemau fel pecynnau creision edrych fel ffoil alwminiwm, ond plastig ystwyth wedi’i feteleiddio yw'r rhain mewn gwirionedd. Ni chaiff y math hwn o ddeunydd ei ailgylchu ar hyn o bryd, ac ni ddylid ei roi yn eich bin ailgylchu.

Mae’n dda gwybod

Ffordd hawdd o ddarganfod a yw eitem wedi’i gwneud o ffoil ynteu blastig ystwyth wedi’i feteleiddio yw cynnal prawf crychu arno. Yn syml, crychwch yr eitem yn eich llaw – os yw’n aros wedi ‘crychu’, yna ffoil ydyw a gellir ei ailgylchu; os yw’n bownsio’n ôl, mae’n debygol mai plastig ystwyth wedi’i feteleiddio ydyw ac ni ellir ei ailgylchu.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon