Skip to main content
English
English

Papur

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Papur mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Pa eitemau papur y gellir eu hailgylchu?

  • Papur glân heb saim, olew, llwch llachar na ffoil arno;

  • Papur cyfrifiadur a phapur wedi’i rwygo’n fân (mewn symiau bach);

  • Amlenni, yn cynnwys y rhai sydd â ffenestri arnynt;

  • Cylchgronau, llyfrynnau, pamffledi, post sothach, llyfrau teleffon a chatalogau;

  • Papurau newydd phapurau ategol.

Pa eitemau papur na ellir eu hailgylchu?

  • Papur brown – dylid ailgylchu hwn gyda chardbord gan ei fod yn achosi brychni brown mewn papur newydd;

  • Nwyddau hylendid e.e. cewynnau, weips neu dyweli mislif;

  • Nwyddau hylendid e.e. cewynnau, weips neu dyweli mislif;

  • Papur sydd wedi’i staenio gyda bwydydd, saim, paent neu faw, e.e. lluniau mae plant wedi’u paentio, papur gwrthsaim neu bapur pobi;

  • Hen hancesi papur a phapur cegin;

  • Papurau gludiog e.e. Nodiadau Post-it, labeli gludiog neu dâp papur;

  • Weips gwlyb, gwlân cotwm, padiau colur;

  • Papur wal;

  • Tocynnau trên, neu docynnau digwyddiadau, sy’n cynnwys stripiau metelaidd;

  • Cardiau crafu;

  • Ffotograffau a negatifau.

Mae’n dda gwybod

Deunydd lapio plastig oddi ar bapurau newydd a chylchgronau – gellir ailgylchu’r plastig hwn gyda bagiau plastig mewn archfarchnadoedd mwy.

Gallwch ddod o hyd i’ch lleoliadau ailgylchu agosaf i ailgylchu bagiau a deunyddiau lapio plastig yma.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon