Skip to main content
English
English

Gwastraff Bwyd

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Gwastraff Bwyd mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Pa fwyd y gellir ei roi mewn casgliadau gwastraff bwyd?

  • Eich holl fwyd na chafodd ei fwyta a chrafion oddi ar y plât;

  • Bwyd heibio ei ddyddiad neu wedi llwydo;

  • Cig neu bysgod amrwd ac wedi’i goginio, yn cynnwys esgyrn;

  • Ffrwythau a llysiau yn cynnwys llysiau amrwd ac wedi’u coginio a chrwyn;

  • Nwyddau pob fel bara, teisennau a phasteiod;

  • Nwyddau llaeth, wyau a phlisg wyau;

  • Hen fagiau te a gwaddodion coffi;

  • Bwyd anifeiliaid anwes;

  • Reis, pasta a ffa.

Pa fwyd na ellir ei roi mewn casgliadau gwastraff bwyd?

  • Pethau nad ydynt yn fwyd, yn cynnwys cewynnau;

  • Deunydd pacio o unrhyw fath;

  • Unrhyw ddeunydd nad yw’n wastraff bwyd;

  • Gall hylifau fel llaeth neu olew ollwng neu arllwys wrth gludo gwastraff bwyd. Ni ddylech roi llaeth yn eich cadi gwastraff bwyd. Gallwch roi ychydig bach o olew yn eich cadi gwastraff bwyd os oes digon o wastraff bwyd ynddo i’w amsugno.

Mae’n dda gwybod

Efallai y byddwch yn dymuno leinio eich cadi gwastraff bwyd i’w wneud yn haws i’w gasglu a’i gludo, fodd bynnag bydd gan eich cyngor lleol reolau penodol ar sut dylech wneud hyn. Efallai mai defnyddio papur fydd eu canllawiau, neu efallai y byddant yn darparu bagiau leinio ichi neu’n rhoi rhestr o leoedd y gallwch brynu bagiau leinio. Dylech wirio ar wefan eich cyngor lleol os ydych chi’n ansicr sut i leinio eich cadi yn iawn.

Mae’n dda gwybod

Rhowch gynnig ar gompostio eich gwastraff bwyd gartref

Mae compostio yn broses naturiol, rhad sy’n troi eich gwastraff o’r gegin a’r ardd yn fwyd gwerthfawr a maethlon i’ch gardd. Mae’n hawdd i’w wneud ac i’w ddefnyddio os yw’r cyfleusterau gennych.

Gellir ychwanegu’r eitemau canlynol o wastraff bwyd i’ch bin compostio gartref: Crwyn ffrwythau a llysiau, hadau a chreiddiau, bagiau te, gwaddodion coffi a phapurau hidlydd, tyweli papur (os nad ydyn nhw wedi cyffwrdd cig) a phlisg wyau.

Ni allwch gompostio: bwyd wedi’i goginio, pysgod, cig na chynnyrch llaeth.

Dysgwch fwy am sefydlu compostio gartref

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon