Beth i'w wneud gyda
ESGIDIAU A BŴTS

Ble gallaf i ailgylchu? »
Gallwch fynd â’ch hen esgidiau a bŵts neu rai diangen i’r rhan fwyaf oganolfannau ailgylchu, neu eu rhoi i siop elusen. Cânt eu gwerthu i’w hailddefnyddio, lle bo hynny’n bosibl.
Os ydynt mewn cyflwr da o hyd, beth am eu cynnig i’ch ffrindiau a pherthnasau?
Beth arall gallaf ei wneud â nhw?
Rhoddwch nhw!
- Gallwch roi parau o esgidiau sydd mewn cyflwr da i siopau elusen i’w hailwerthu. Cofiwch eu clymu i’w gilydd mewn parau, oherwydd gallant gael eu gwahanu’n hawdd ac ni all esgidiau sengl gael eu gwerthu;
- Chwiliwch ar-lein i ddod o hyd i elusennau a grwpiau cymunedol yn eich ardal sy’n casglu esgidiau.
Trwsiwch nhw!
- Cyn i chi gael gwared ar esgidiau nad ydych chi’n eu gwisgo mwyach, edrychwch arnynt eto. A ellid eu paentio, eu haddurno neu eu trwsio?
- Gall ailwampio neu drwsio heb esgidiau fod yn rhatach o lawer na phrynu pâr newydd.
Ailgylchwch nhw...
- Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref gynhwysyddion ar gyfer hen esgidiau a bŵts.