Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Beth i'w wneud gyda

DILLAD A THECSTILAU

Clothing

Mae gan bob un ohonom ddillad yn ein cwpwrdd dillad neu lenni, casys gobennydd, dillad gwely, blancedi, llieiniau a thywelion yn ein cypyrddau nad oes arnom eu hangen neu eu heisiau mwyach.  Weithiau, mae gennym ni eitemau sydd wedi gweld dyddiau gwell hefyd...

Felly, beth allem ei wneud â nhw?

Ble gallaf i ailgylchu? »

Pasiwch nhw ymlaen...

Elusennau a sefydliadau ailddefnyddio

  • Rhowch eitemau i elusennau a sefydliadau ailddefnyddio, chwiliwch am eich siop leol ar y stryd fawr neu llenwch y bagiau sy’n dod trwy’r drws;
  • Yn aml, mae banciau dillad ac esgidiau ar gael mewn archfarchnadoedd a meysydd parcio lleol – dewch o hyd i’ch un lleol gan ddefnyddio’r lleolydd cod post;
  • Os ydych yn codi arian ar gyfer eich ysgol, eglwys, gweithle, clwb chwaraeon neu sefydliadau fel y Geidiau neu’r Sgowtiaid, mae cwmnïau tecstilau sy’n gallu trefnu i gasglu tecstilau i’ch helpu i godi arian ar gyfer eich achos.  Mae hyn nid yn unig yn creu cyllid gwerthfawr, ond mae’n creu ysbryd tîm gwych trwy gael eich cefnogwyr i gydweithio â’i gilydd i wacáu eu cypyrddau dillad

Mae bob amser yn werth gwirio pa fathau o ddillad a thecstilau y gallwch eu rhoi, gan fod elusennau a sefydliadau ailddefnyddio gwahanol yn aml yn casglu eitemau ychydig yn wahanol i’w gilydd.

Gwerthu

Ni fu amser gwell erioed i werthu dillad diangen ac mae sawl ffordd y gallech chi wneud hynny.  Mae dau draean o bobl eisoes yn prynu dillad ail-law a hen ddillad, felly mae’n adeg berffaith i geisio gwerthu eich rhai chi!

  • Gwerthwch nhw ar wefannau fel eBay, Gumtree a Preloved;
  • Mewn trefi mwy neu ddinasoedd, cadwch olwg am allfa/asiantaeth ‘arian am ddillad’
  • Neu gallwch basio eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim mewn ar wefannau fel Freecycle a Freegle.

Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol

  • Holwch ffrindiau a pherthnasau – yn aml, gallant ddefnyddio’r pethau nad oes arnom ni eu heisiau mwyach
  • Gwerthwch eitemau’n lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer eitemau sydd bron â bod yn newydd ac arwerthiannau moes a phryn
  • Ewch i ddigwyddiadau cyfnewid lleol neu gallwch ddechrau eich un eich hun yn www.swishing.com;
  • Holwch ysgolion lleol i weld a ydynt yn casglu dillad a thecstilau i godi arian.

Ar y stryd fawr

  • Mae rhai siopau fel H&M a Marks & Spencer yn casglu dillad diangen yn eu siopau.  Hefyd, mae Marks & Spencer yn casglu trwy eu partner elusennol, Oxfam ac yn cynnig disgownt oddi ar eich pryniant nesaf;
  • Bydd rhai siopau hen bethau yn prynu dillad ail-law, fel dillad hwyrol ac eitemau o dras. 

Rhowch gynnig ar drwsio...

  • Os oes gennych chi eitemau sydd wedi’u rhwygo, eu gwisgo neu nad ydynt yn ffitio’n iawn mwyach, gallech eu trwsio neu eu haltro i’w hadnewyddu;
  • Ddim yn siŵr sut i wneud hynny?  Gofynnwch am help gan ffrindiau a pherthnasau - mae rhywun yn siŵr o fod yn dda â nodwydd ac edau;
  • Erbyn hyn, mae llawer o siopau’n cynnig gwasanaethau trwsio ac altro – edrychwch ar eich stryd fawr, chwiliwch ar-lein neu edrychwch mewn cyfeirlyfrau lleol;
  • Ewch i Caru Eich Dillad am awgrymiadau ardderchog ar sut i fanteisio i’r eithaf ar eich dillad, gan gynnwys trwsiadau sy’n hawdd eu gwneud.

Ailgylchwch nhw...

Gall dillad a thecstilau – hyd yn oed hen ddillad isaf, dillad sydd wedi’u difrodi a llenni sydd wedi colli eu lliw – nad ydynt yn addas i gael eu pasio ymlaen at rywun arall gael eu hailgylchu a’u gwneud yn eitemau newydd, fel padin ar gyfer cadeiriau a seddau ceir, llieiniau glanhau a blancedi diwydiannol.

  • mixtxt_port3_en-120x201 (1).jpg

    Gwiriwch i weld a yw eich cyngor yn casglu dillad a thecstilau i’w hailgylchu;
  • Neu ein 'Alla' I ei ailgylchu?' dudalen i ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf;
  • Mae rhai elusennau’n casglu dillad a thecstilau i’w hailgylchu.  Gwiriwch â’ch siop leol neu ar y bagiau sy’n dod trwy’r drws;
  • Yn aml, mae banciau dillad a thecstilau ar gael mewn meysydd parcio archfarchnadoedd a meysydd parcio lleol – gwiriwch i weld a ydynt yn derbyn eitemau i’w hailgylchu.

Gwefannau cysylltiedig:

» Am fwy o syniadau am beth i’w wneud â’ch dillad, ewch i Caru Eich Dillad.

Related pages

Alla' I ei ailgylchu

Lleoliad Ailgylchu

ALLA' I EI AILGYLCHU

  • EITEMAU BOBLOGAIDD
  • GWASTRAFF BWYD
  • PAPUR ARIAN
  • POTELI PLASTIG
  • EITEMAU TRYDANOL
  • DILLAD A THECSTILAU
  • POB EITEMAU
  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Ailgylchu Dros Gymru

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU