Skip to main content
English
English

Deunydd Pacio Anrhegion a Theganau

Ailgylchu gartref

Mae deunydd pacio teganau ac anrhegion yn aml yn cynnwys gwahanol ddeunyddiau, fel cardbord, papur a phlastig. Gellir ailgylchu rhai o’r rhain, ond nid rhai eraill. Bydd angen eu gwahanu cyn ailgylchu.

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae’n bosibl ailgylchu deunyddiau pacio anrhegion a theganau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Sut i ailgylchu deunydd pacio anrhegion a theganau

  • Fflatiwch gardbord i’w wneud yn haws i’w gludo i gyfleusterau ailgylchu neu i ffitio mwy yn eich bag neu fin ailgylchu gartref;

  • Mae pecynnau plastig sydd â marc PET neu PETE arnynt yn cael eu hailgylchu gan y rhan fwyaf o gynghorau lleol, ond holwch eich cyngor lleol yn y lle cyntaf;

  • Tynnwch y ffenestri plastig oddi ar focsys cardbord cyn eu hailgylchu – dylid gosod y ffenestr blastig yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;

  • Tynnwch yr handlenni rhaff neu ruban oddi ar fagiau anrhegion – gellir eu hailddefnyddio neu gallwch eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;

  • Ni ellir ailgylchu’r weiars clymu fel arfer, ond gellir eu hailddefnyddio o amgylch y cartref, er enghraifft i glymu coesau planhigion yn yr ardd neu i gau pecynnau o lysiau rhewgell sydd ar eu hanner.

Mae’n dda gwybod

Pecyn swigen yw math o ddeunydd pacio plastig a gaiff ei wneud i ffurfio swigen sy’n amgylchynu’r eitem. Mae rhai o’r nwyddau sy’n cael eu pacio mewn swigod fel hyn yn cynnwys:

  • Batris;

  • Teganau;

  • Nwyddau ac ategolion trydanol (Cof bach/USB, ceblau a chlustffonau);

  • Brwsys dannedd a fflos dannedd;

  • Nwyddau DIY (nyts, bolltau, sgriwiau a hoelion);

  • Tabledi a chapsiwlau;

  • Offer ysgrifennu (Superglue, pinnau ysgrifennu, clipiau papur, pinnau bawd ac ati);

  • Nwyddau sy’n torri’n hawdd (cetris argraffu);

  • Nwyddau gyda rhannau bregus.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon