Beth i'w wneud gyda
CYRC

Nid yw cyrc yn cael eu casglu fel rhan o’ch cynllun ailgylchu o garreg y drws. Fodd bynnag, gallwch eu rhoi yn eich bin compost os oes gennych chi un, eu hailgylchu mewn rhai siopau neu eu hailddefnyddio mewn llawer o ffyrdd gwahanol hefyd.
Gwneud torch Nadolig
Dechreuwch â thorch plaen 18” a gwn glud poeth. Gludwch y cyrc o gwmpas y torch nes i chi lenwi’r holl leoedd gwag. Gwnewch gwlwm a’i ddiogelu â gwifren gwerthwr blodau.
Llosgi cyrc ar dân agored
Y tu mewn: Os oes gennych chi dân/llosgydd pren go iawn y tu mewn, gallwch gadw eich cyrc eu defnyddio ar gyfer tanwydd.
Y tu allan: Maent hefyd yn wych i’w defnyddio yn yr ardd ar eich chiminea/pydew tân/barbeciw.
A ydych chi’n gwahodd pobl draw am swper?
Gallwch greu gosodiad bwrdd cyflym ag ychydig o gymeriad! Torrwch agen mewn corcyn gwin a rhoi cerdyn lle ynddo.
Mae atgofion yn amhrisiadwy
Cymerwch y corcyn o’r botel, gwnewch ddymuniad bod yr hapusrwydd rydych yn ei deimlo yr eiliad honno yn cael ei ailadrodd, a rhowch ddarn arian mewn agen ar dop y corcyn! Yn ôl traddodiad, dylech gysgu â’r corcyn o dan eich gobennydd, yna rhwbio’r darn arian unrhyw ddiwrnod wedi hynny i gael lwc dda!
Neu...gallech ysgrifennu’r dyddiad a’r achlysur ar ochr y corcyn a’i gadw mewn ffiol atgofion.
Defnyddio cyrc ar gyfer eich planhigion
Torrwch gyrc a’u malu i wneud tomwellt mân – mae’n helpu planhigion i ddal dŵr. Yn benodol, mae tyfwyr tegeirianau wedi defnyddio cyrc wedi’u sleisio ers blynyddoedd maith i helpu’r planhigyn i ddal lleithder. Mae hwn yn awgrym da ar gyfer y rhai ohonynt sy’n anghofio rhoi dŵr i’n planhigion!