Beth i'w wneud gyda
CATALOGAU

Ble gallaf i ailgylchu? »
Gall rhai catalogau gael eu hailgylchu, ond mae hyn yn amrywio o un ardal i’r llall. Mae hefyd yn dibynnu ar y math o gatalog. Gwiriwch â’ch cyngor lleol i weld a allwch roi eich hen gatalogau yn eich cynllun casglu deunyddiau ailgylchu lleol.
Gwahanol fathau o gatalogau:
- Mae rhai catalogau’n cynnwys ychydig o dudalennau’n unig – yn aml, bydd y rhain wedi’u cynnwys mewn papurau newydd. Os ydynt wedi’u lapio mewn plastig, tynnwch y plastig cyn ei ailgylchu â phapur arall;
- Mae rhai catalogau o faint tebyg i’r cylchgronau misol y gallwch eu prynu. Os yw eich cyngor yn derbyn cylchgronau yn eich deunyddiau ailgylchu, dylech allu ailgylchu’r mathau hyn o gatalogau hefyd. Gwiriwch â’ch cyngor;
- Mae gan fathau eraill o gatalogau gloriau caled ac maent yn drwchus iawn. Dylech wirio â’ch cyngor a allwch ailgylchu’r rhain. Bydd rhai ohonynt yn eich caniatáu i’w hailgylchu os byddwch yn tynnu’r clawr caled, ond holwch yn gyntaf.