Beth i'w wneud gyda
CARTONAU BWYD A DIOD

Ble gallaf i ailgylchu? »
Gellir ailgylchu cartonau bwyd a diod o bob lliw a llun. Yn gynyddol, maent yn cael eu casglu fel rhan o gynlluniau ailgylchu gwastraff y cartref ond, mewn rhai rhannau o’r wlad, rhaid iddynt gael eu hailgylchu mewn canolfannau ailgylchu lleol. Gwiriwch y lleolydd cod post neu holwch eich cyngor ynghylch sut y gallwch ailgylchu cartonau yn eich ardal leol.
Sut dylwn i ailgylchu fy nghartonau?
Darganfyddwch a yw eich cyngor yn derbyn cartonau a ble i’w hailgylchu. I rai pobl, bydd hyn yn fater syml o’u rhoi yn eu bin ailgylchu. I eraill, dylech eu golchi a’u gwasgu, eu rhoi mewn bocs neu fag, yna mynd â nhw i’r ganolfan ailgylchu y tro nesaf i chi fynd heibio iddi.
Beth mae cartonau wedi’u gwneud ohono?
Mae cartonau’n ddeunydd pacio cyfansawdd – mewn geiriau eraill, nid ydynt yn cael eu gwneud o bapur yn unig, ond maent yn cynnwys tua 75% papur, 20% plastig (polyethylen) a 5% papur alwminiwm (ar gyfer cynnyrch hir oes).
Sut y cânt eu hailgylchu?
Caiff cartonau sydd wedi’u byrnu eu gollwng i mewn i beiriant mathru, sy’n debyg i gymysgydd bwyd domestig anferth wedi’i lenwi â dŵr, a’u mathru am 20 munud. Mae hyn yn dadlaminadu’r deunydd pacio, gan alluogi’r papur alwminiwm a’r polyethylen i gael eu gwahanu oddi wrth i ffibrau papur, sy’n cael eu hadfer i wneud nwyddau papur newydd. Gall yr hyn sy’n weddill nad yw’n ffibr gael ei ddefnyddio mewn nifer o gymwysiadau, gan gynnwys dodrefn gardd a deunyddiau to.
Gwyliwch y fideo hwn sydd wedi’i animeiddio ar sut y caiff cartonau eu hailgylchu:
Ble y caiff cartonau eu hailgylchu?
Ym mis Medi 2013, agorwyd yr unig gyfleuster ailgylchu cartonau diod yn Stainland ger Halifax, yng ngorllewin Swydd Efrog. Gall y ffatri ailgylchu hyd at 40% (25,000 tunnell) o’r cartonau sy’n cael eu gwneud ar gyfer marchnad y DU bob blwyddyn. Mae’r diwydiant wedi creu’r fideo hwn i ddangos o broses ailgylchu cartonau yn y cyfleuster hwn:
A ellir eu hailddefnyddio?
Beth am greu plannwr o’ch cartonau? Torrwch ben y carton i ffwrdd a gwneud rhai tyllau bach yn y gwaelod ar gyfer draenio. Llenwch y carton â phridd potio a phlannu eich hedyn. Gellir ailddefnyddio’r carton eto ar gyfer hadau eraill.