Beth i'w wneud gyda
CARPEDI

Os oes gennych chi garpedi a rygiau nad oes arnoch chi ei hangen mwyach, mae llawer o opsiynau ar gyfer cael gwared arnynt…
Os ydynt mewn cyflwr da…
Gwerthwch nhw i wneud ychydig o arian
- Gallwch eu gwerthu ar-lein ar wefannau fel eBay a Gumtree;
- neu roi hysbyseb yn y papur newydd lleol neu mewn ffenestr siop.
Pasiwch nhw ymlaen
- Holwch ffrindiau a pherthnasau, efallai bod angen darn o garped arnynt;
- Gallwch eu pasio ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau fel Freecycle aFreegle;
- Rhowch nhw i elusen neu sefydliad ailddefnyddio – mae llawer ohonynt yn cynnig gwasanaeth casglu lleol.
Os ydynt wedi gweld dyddiau gwell…
- Efallai y bydd gan arddwyr neu grwpiau garddio lleol ddiddordeb mewn defnyddio eich hen garped. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer insiwleiddio tomenni compost, cadw chwyn draw ar leiniau llysiau a llwybrau. Mae carpedi â llawer o wlân ynddynt yn gwneud tomwellt da iawn hefyd!
- Os ydych chi’n adeiladu pwll dŵr ar gyfer eich gardd, defnyddiwch hen garped i’w leinio cyn i chi roi’r leinin ynddo – mae’n amddiffyn y leinin rhag cerrig miniog;
- Torrwch ef i’r maint cywir a’i ddefnyddio i amddiffyn sgrin wynt eich car rhag rhew.
Ailgylchwch nhw
- Gwiriwch a yw eich cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu, neu gallech fynd â nhw i’ch canolfan ailgylchu leol;
- Yn aml, bydd siopau carpedi’n cymryd eich hen garped wrth iddynt osod eich un newydd.
- Mae mwy o wybodaeth am ailgylchu carpedi ar gael ganCarpet Recycling UK.