Beth i'w wneud gyda
CARDIAU CYFARCH

Mae llawer o wahanol fathau o gardiau cyfarch – o gardiau pen-blwydd a chardiau Nadolig i longyfarchiadau ar eich pen-blwydd priodas, eich baban newydd, symud tŷ neu lwyddo yn eich prawf gyrru! Mae’r rhan fwyaf o gardiau wedi’u gwneud o bapur ond, yn aml, mae ganddynt addurniadau fel rhubanau neu befriad arnynt sy’n gallu eu gwneud yn anoddach eu hailgylchu. Os yw’n bosibl, rhwygwch y darn â gliter i ffwrdd, yn ogystal ag unrhyw eitemau nad ydynt yn bapur, fel bathodynnau a batris.
Gwiriwch â’ch cyngor lleol i weld a oes modd eu rhoi yn eich cynhwysydd ailgylchu neu p’un a fydd angen i chi fynd â nhw i’r ganolfan ailgylchu. Ym mis Ionawr, byddwch yn aml yn dod o hyd i siopau ar y stryd fawr ac archfarchnadoedd sydd â mannau casglu arbennig ar gyfer cardiau.
Beth arall gallaf i ei wneud â chardiau cyfarch?
Gallech eu troi’n rhywbeth newydd...
- Tagiau ar gyfer anrhegion;
- Cardiau post;
- Llyfrnodau;
- Cylchoedd napcynnau.
Mae’r fideo hwn yn cynnig rhai syniadau syml iawn ond gwych a gallech chi roi cynnig arnynt (Saesneg yn unig):