Skip to main content
English
English

Tuniau Bwyd a Chaniau Diod

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Tuniau Bwyd a Chaniau Diod mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Pa duniau bwyd a chaniau diod y mae’n bosibl eu hailgylchu?

  • Erosolau gwag – tynnwch y caeadau plastig a’u hailgylchu gyda phlastig ystwyth a bagiau plastig mewn mannau casglu mewn archfarchnadoedd mwy;

  • Ffoil alwminiwm glân, heb ei staenio a heb saim ac olew arno, sef y ffoil a ddefnyddir i bobi neu orchuddio bwyd – crychwch hwn yn belen;

  • Tybiau ffoil alwminiwm fel tybiau tecawê glân, heb ei staenio a heb saim neu olew arnynt, gyda’r caeadau wedi’u tynnu;

  • Tiwbiau alwminiwm fel piwrî tomato – tynnwch y caeadau plastig;

  • Tuniau bisgedi a siocled a’u caeadau;

  • Caniau diodydd – gwagiwch a rinsiwch;

  • Tuniau bwyd – gwagiwch, rinsiwch a rhowch gaeadau’r tuniau yn y tuniau, a gellir gadael y labeli arnynt.

Mae’n dda gwybod

Caiff traean o’r caniau diod a werthir yn y Deyrnas Unedig eu hyfed oddi cartref

Mae’r metel a ddefnyddir i wneud y caniau hyn yn gallu cael ei ailgylchu’n dragwyddol, felly mae’n bwysig ei fod yn cael ei arbed yn hytrach na’i daflu. Yn enwedig o ystyried y gall pob can gael ei ailgylchu a bod ar werth drachefn fel can arall – mewn dim ond 60 diwrnod.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon