Esbonio symbolau deunydd pacio

Pan rydych yn barod i daflu deunydd pacio, edrychwch ar y label i weld a ellir ei ailgylchu
Mae gwasanaeth casglu deunydd i’w ailgylchu ar garreg y drws ar gael ar gyfer y rhan fwyaf i gartrefi yng Nghymru. Darganfyddwch beth y gallwch ei ailgylchu yn eich ardal yn gyntaf.
Mae nifer o labeli yn ymddangos ar ddeunydd pacio i gynghori defnyddwyr a hyrwyddo honiadau amgylcheddol.
I’ch helpu i ddeall yr holl symbolau y gallech eu gweld, edrychwch ar y canllaw isod.
Cyffredinol
Lansiwyd y cynllun Labelu Ailgylchu ar y Pecyn mewn ymateb i geisiadau gan siopwyr am gyngor mwy safonol a hawdd i’w ddeall ynglŷn â pha gynhyrchion y gellir eu hailgylchu.
Cynlluniwyd yr eicon ‘Recycle Now’ fel y symbol cydnabyddedig ar gyfer ailgylchu ac mae’n darparu cyngor ar sut y gellir ailgylchu eitem o ddeunydd pacio.
Mae “Widely Recycled” yn golygu bod gan 75% o bobl fynediad at gyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr eitemau hyn.
Mae “Check locally” yn golygu bod gan 20% - 75% o bobl fynediad at gyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr eitemau hyn.
Mae “Not recycled” yn golygu bod gan lai na 20% o bobl fynediad at gyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr eitemau hyn.
Mae symbol hefyd ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu’n llai eang e.e. Tetra Paks a deunydd pacio ffoil. Mae’n cynghori defnyddwyr i wirio a yw’r deunydd yn cael ei gasglu gan eu cyngor lleol, naill ai ar garreg y drws neu mewn canolfan ailgylchu leol.
Dolen Mobius
Symbol Canran Dolen Mobius
Plastigion
Mae chwe math gwahanol o bolymer plastig yn cael eu defnyddio’n gyffredin i wneud deunydd pacio. Triongl gyda rhif y tu mewn iddo a rhai llythrennau oddi tano yw’r symbol a ddefnyddir i amlygu’r math o bolymer. Mae poteli PET a HDPE yn rhai o’r plastigion mwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn deunydd pacio a chânt eu hailgylchu gan y mwyafrif o awdurdodau lleol.
Yn anffodus, nid yw’r triongl yn golygu y gall y deunydd pacio o angenrheidrwydd gael ei ailgylchu.
Metelau
Mae’r symbol hwn yn golygu bod y deunydd pacio wedi’i wneud o ddur.
Gwydr
Gellir ei gompostio
Mae’r symbol hwn yn dangos bod y deunydd pacio wedi’i wneud o ddeunydd organig a bydd yn pydru’n naturiol. Byddwch mwy na thebyg yn gweld y logo hwn os ydych yn defnyddio leinin yn eich blychau ailgylchu gwastraff bwyd.
Felly, mae’n bwysig mai DIM OND bagiau y gellir eu compostio sydd â’r symbol canlynol a ddefnyddir yn y blychau.
Papur
Pren
Offer trydanol ac electronig
NID yw’r Dot Gwyrdd o angenrheidrwydd yn golygu y gellir ailgylchu’r deunydd pacio. Mae’n symbol a ddefnyddir ar ddeunydd pacio mewn nifer o wledydd Ewropeaidd ac mae’n nodi bod y cynhyrchydd wedi gwneud cyfraniad at ailgylchu deunydd pacio.
Tidyman
Dal wedi drysu?
Os oes unrhyw symbol neu logo nad ydych yn ei ddeall, cysylltwch â ni.