CASGLIADAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU YN YSTOD YR ARGYFWNG COVID-19
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru’n gweithio’n galed i ddarparu’r gwasanaeth gorau bosib yn ystod yr argyfwng COVID-19. Mae criwiau gwastraff ac ailgylchu yn weithwyr allweddol, ac maen nhw’n gwneud gwaith ardderchog.
Gan fod y rhan fwyaf ohonom yn aros gartref ar hyn o bryd, bydd mwy o wastraff o’r cartref yn rhoi pwysau ar wasanaethau ailgylchu a gwastraff.
Gallai prinder staffio arwain at newidiadau i wasanaethau fel casgliadau gwastraff o’r ardd neu gasgliadau gwastraff swmpus fel matresi, nwyddau gwyn neu ddodrefn, ac mae llawer o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref ar gau ar hyn o bryd.
Mae’r sefyllfa’n un heriol, ac mae’n gallu newid yn sydyn. Mae angen inni oll helpu.
Gallwn wneud hyn trwy:
- Edrych ar wefan ein cyngor lleol yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mathau ac amlder casgliadau ailgylchu a gwastraff yn ein hardal ni – yn cynnwys yr eitemau y gellir eu hailgylchu a’r rhai na ellir eu hailgylchu;
- Parhau i ailgylchu. Gyda'r economi fyd-eang yn cael ei amharu, mae'n bwysicach nag erioed i ailgylchu ein cardfwrdd, papur, gwydr, plastigion a chaniau i sicrhau bod adnoddau gwerthfawr o'r deunyddiau hyn yn cael eu hailgylchu a'u troi'n gynhyrchion newydd i bobl eu prynu;
- Parhau i ddefnyddio ein casgliadau gwastraff ac ailgylchu ar ymyl y ffordd. Dim ond eitemau na allwch eu storio’n ddiogel gartref neu eu rhoi allan ar gyfer casgliad ymyl y ffordd y dylech eu cludo i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol. Ewch i wefan eich cyngor lleol i ddarganfod a yw'ch Canolfan Ailgylchu ar agor a phryd, ac am unrhyw gyfyngiadau a allai fod wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu'n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol;
- Peidio mynd â dillad ac eitemau eraill i siopau elusen. Mae’r siopau hyn ar gau ar hyn o bryd. Ni ddylid gadael eitemau ar eu stepen drws. Os ydych chi’n manteisio ar y cyfle i glirio’r atig, y garej neu’r wardrob, daliwch eich gafael ar yr eitemau hyn gan y bydd siopau elusen yn ddiolchgar iawn ohonynt ar ôl i’r argyfwng fynd heibio;
- Osgoi sesiynau clirio mawr o gwmpas y cartref ar hyn o bryd, gan y bydd yn creu mwy o wastraff ac ailgylchu i griwiau’r cyngor eu casglu, neu efallai yr hoffwn fynd â ni i'n Canolfan Ailgylchu leol. Os ymwelwn â'n Canolfan Ailgylchu leol, dim ond un person all adael ein cerbyd i ddadlwytho'n gwastraff a'n ailgylchu, ac ni all staff ein helpu i ddadlwytho unrhyw eitemau, felly dylwn dim ond cymryd eitemau y gallwn eu cario ein hun;
- Lleihau’r symiau o sbwriel, ailgylchu a gwastraff bwyd rydym yn ei greu. Bydd pob lleihad bach y gallwn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gynnal gwasanaeth da i bawb:
- Mae cynghorion ar gyfer lleihau gwastraff bwyd i’w gweld ar y wefan hon – lovefoodhatewaste.com – yn cynnwys sut i storio bwyd yn gywir a defnyddio bwyd dros ben, i wneud i’ch bwyd bara’n hirach ac i’ch helpu i wneud llai o dripiau i’r siop fwyd: lovefoodhatewaste.com (gwefan Saesneg yn unig);
- Ailddefnyddio eitemau y byddwn fel arall yn eu taflu, neu dod o hyd i bwrpas arall iddyn nhw. Er enghraifft, gallwn ddefnyddio tybiau plastig gyda chaeadau i gadw bwydydd dros ben yn y rhewgell, neu dorri hen gynfasau a thyweli i’w defnyddio fel cadachau dystio a glanhau.
- Parciwch ein car yn gyfrifol. Mae llawer mwy o bobl gartref, ac efallai y bydd ceir sydd wedi'u parcio yn rhwystro mynediad i'n criwiau casglu i'n cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu, gan wneud eu gwaith yn anoddach ac yn cynyddu'r tebygolrwydd na ellir gwagio ein cynwysyddion;
- Peidio â chael gwared ar ein gwastraff a'n ailgylchu mewn ffordd a fydd yn creu llygredd neu a allai beri niwed i iechyd pobl. Mae hyn yn cynnwys llosgi ein gwastraff yn ein cartref. Gallem fod yn torri'r gyfraith ac efallai y byddwn yn derbyn dirwy neu'n gorfod mynychu'r llys.
Mae eich staff casglu yn weithwyr allweddol: cadwch nhw’n ddiogel, os gwelwch yn dda. Pan fyddem yn roi ein bagiau, biniau, bocsys a chadis gwastraff ac ailgylchu allan, mae yna ychydig o bethau y mae’n rhaid i ni i gyd eu gwneud i sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny mor ddiogel â phosibl:
- Os ydych chi’n hunanynysu ac yn teimlo’n wael, dylai’ch gwastraff personol (fel hancesi papur) gael eu bagio’n ddwbl a’u rhoi o’r neilltu am o leiaf 72 awr (3 diwrnod) cyn eu rhoi allan i’w casglu;
- Peidiwch â rhoi hancesi papur yn eich ailgylchu gan na ellir eu hailgylchu;
- Diheintiwch handlenni’ch bagiau, biniau, bocsys a chadis cyn ac ar ôl ichi eu cyffwrdd;
- Rhowch eich bagiau, biniau, bocsys a chadis allan y noson cyn eich casgliad, gan y gall amseroedd y casgliadau newid yn ystod y cyfnod hwn;
- Cadwch eich pellter pan fydd ein gweithwyr yn casglu’ch gwastraff a’ch ailgylchu;
- Diheintiwch handlenni’ch bagiau, biniau, bocsys a chadis eto, cyn ac ar ôl eich casgliadau;
- Golchwch eich dwylo’n drylwyr ar ôl cyffwrdd a diheintio eich bagiau, biniau, bocsys a chadis;
- Rhowch y weips, cadachau, menig ayyb a ddefnyddiwyd i lanhau’ch bagiau, biniau, bocsys a chadis yn eich bin neu fag ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gan na ellir ailgylchu’r rhain;
- Rhowch fenig, ffedogau a masgiau wyneb tafladwy ac offer amddiffynnol personol arall (“PPE”) yn eich bin neu fag ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, ynghyd ag unrhyw weips, cadachau, menig ayyb a ddefnyddiwyd i lanhau’ch bagiau, biniau, bocsys a chadis yn eich bin neu fag ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gan na ellir ailgylchu’r rhain ac efallai eu bod nhw wedi'u halogi.
Am yr wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: icc.gig.cymru/coronafeirws.
Os na all eich cyngor gasglu eich ailgylchu, storiwch eich eitemau ailgylchadwy’n ddiogel nes gellir eu casglu. Cadwch unrhyw bapur a cherdyn yn sych ac oddi wrth wresogyddion, ffyrnau a fflamau, fel nad yw’n mynd ar dân. Plygwch bapur, fflatiwch focsys a gwasgwch boteli a chynwysyddion plastig fel eu bod yn cymryd llai o le.
Efallai y bydd gallu ein hawdurdodau lleol i gynnal eu casgliadau arferol yn newid trwy gydol yr argyfwng COVID-19. Daliwch i edrych ar wefan eich cyngor lleol i ddarganfod beth fydd yn cael ei gasglu, a pharhewch i ailgylchu yn y cyfamser.
Gyda’n gilydd gallwn helpu i gynnal gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu da i bawb yn ystod argyfwng COVID-19.